Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Disgyblion yn lleihau gwastraff bwyd ac yn ennill teitl Gwroniaid Gwastraff

Waste Warrior winners

Mae disgyblion o Ysgol Gymraeg Cwmbrân wedi helpu i leihau gwastraff bwyd yn ffreutur yr ysgol bron i 36 y cant.

Coronwyd yr ysgol yn bencampwr Gwroniaid Gwastraff eleni ar ôl helpu i leihau gwastraff bwyd yn rhan o gystadleuaeth ar gyfer y Fwrdeistref gyfan.

Yn rhan o'r her, fe fu aelodau o Bwyllgor Eco’r ysgol yn edrych dros fwydlenni, yn mesur gwastraff bwyd amser cinio ac yn arwain ymgyrch ysgol-gyfan i annog disgyblion a staff i wastraffu llai.

Fe fuon nhw hefyd yn gweithio'n agos gyda thîm y gegin i nodi pa fwydydd oedd yn cael eu gwastraffu amlaf ac i archwilio ffyrdd o leihau’r gwastraff hwn.

Ar ddiwedd y cyfnod monitro o bedair wythnos, arweiniodd eu hymdrechion at ostyngiad o 35.98 y cant mewn gwastraff bwyd.

Mae brwdfrydedd a gwaith tîm y disgyblion, a’u ffordd arloesol o fynd i'r afael â gwastraff bwyd, wedi creu argraff ar y beirniaid.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Llongyfarchiadau i Ysgol Gymraeg Cwmbrân ar ddod yn bencampwr Gwroniaid Gwastraff eleni.

"Nid profiad dieithr i’r ysgol yw’r llwyddiant hwn, gan iddi ennill y gystadleuaeth ychydig flynyddoedd yn ôl hefyd. Mae ei hymrwymiad parhaus i leihau gwastraff bwyd wedi bod yn rhagorol ac mae’n tynnu sylw at y rôl bwysig y gall pobl ifanc ei chwarae wrth ddiogelu'r amgylchedd.

"Trwy annog eu cyd-ddisgyblion i feddwl yn wahanol am y bwyd maen nhw'n ei ddewis a'i fwyta, mae'r disgyblion hyn wedi helpu i greu arferion parhaol sy'n dda i'w hiechyd a'r blaned."

Meddai Catrin Evans, Pennaeth Ysgol Gymraeg Cwmbrân: "Rydyn ni’n hynod o falch o'r Pwyllgor Eco a phopeth mae wedi’i gyflawni.

"Fe wnaeth y disgyblion gofleidio'r her gyda brwdfrydedd, a dangos arweinyddiaeth wych wrth hyrwyddo newidiadau cadarnhaol ar draws yr ysgol.

"Mae eu hymdrechion wedi helpu i godi ymwybyddiaeth o wastraff bwyd ac wedi ysbrydoli disgyblion eraill i chwarae eu rhan nhw hefyd."

Yn rhan o'u gwobr, bydd disgyblion yn cymryd rhan mewn sesiwn goginio iach am ddiwrnod cyfan, wedi’i hariannu trwy bartneriaeth BwydIDyfu Torfaen.

Lansiwyd cystadleuaeth Gwroniaid Gwastraff gan dîm arlwyo'r Cyngor yn 2023, yn rhan o'i ymrwymiad i wneud prydau ysgol yn fwy cynaliadwy. Fis diwethaf, cafodd y tîm gydnabyddiaeth genedlaethol am ystyried yr hinsawdd wrth gynllunio prydau ysgol.

Mae'r gystadleuaeth yn cefnogi ymdrechion ehangach i leihau gwastraff bwyd, annog bwyta'n iach a helpu ysgolion i chwarae eu rhan wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.

Yn rhan o'i waith parhaus i ddatblygu bwydlenni ysgol ac ehangu opsiynau sy'n seiliedig ar blanhigion, mae tîm arlwyo'r Cyngor hefyd yn gweithio gyda The Queen's Inn, Cwmbrân, i archwilio prydau fegan a llysieuol newydd i ddisgyblion.