
Mae gwaith i adfywio canol tref Pont-y-pŵl ar y gweill wrth i ni baratoi at ddiwrnod torchi llewys cyntaf Trefi Gyda'i Gilydd Pont-y-pŵl a gynhelir yfory (dydd Sadwrn 26 Medi).
Dechreuodd y gwaith paratoi sawl wythnos yn ôl, gyda thimau'r Cyngor yn torri rhannau mawr o ordyfiant ac yn ysgubo strydoedd ar draws canol y dref.
Heddiw, gosodwyd pedwar pot planhigion newydd a phlannwyd planhigion hawdd eu cynnal ynddynt, a bydd chwech arall yn cael eu gosod dros yr wythnosau nesaf.
Bydd y potiau’n cael eu mabwysiadu gan grwpiau a busnesau lleol, a fydd yn helpu i’w dyfrio ac yn gofalu amdanynt trwy gydol y flwyddyn.
Cynhelir prif ddiwrnod torchi llewys cymunedol Trefi Gyda'i Gilydd Pont-y-pŵl yfory.
Bydd tîm Priffyrdd y Cyngor yn dechrau'r dydd trwy lanhau tri arhosfan bysiau yn ddwfn, tra bod criwiau Strydlun yn cael gwared ar nifer o hen finiau sbwriel ac yn gosod rhai newydd yn eu lle.
Rhwng 9am ac 1pm, gall unrhyw un a hoffai gymryd rhan yn y diwrnod torchi llewys gwrdd â staff y Cyngor tu allan i fynedfa Lower Crane Street i Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl.
Bydd y gwaith gwella yn cael ei wneud ar draws Crane Street, The Link, Commercial Street a George Street.
Bydd aelodau o Dasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, busnesau lleol, trigolion a grwpiau cymunedol yn gweithio ochr yn ochr â thimau'r Cyngor i chwynnu, ysgubo, codi sbwriel a glanhau dodrefn stryd, gan gynnwys meinciau, biniau a rheiliau. Bydd busnesau lleol hefyd yn helpu i wella ymddangosiad canol y dref trwy lanhau a thacluso blaenau eu siopau.
Bydd y timau Priffyrdd a Strydlun yn rhoi cymorth ychwanegol trwy gydol y dydd gan ddefnyddio offer arbenigol i lanhau llwybrau, arwyddion ffyrdd ac ardaloedd eraill o ganol y dref.
O 11am, bydd pobl ifanc hefyd yn creu murlun ar y palisau tu allan i Eglwys Iago Sant ar Hanbury Road.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae yna botensial i ganol ein trefi fod wrth galon ein cymunedau unwaith eto, ond rhaid i ni fynd ati mewn ffordd gyson a chydlynol.
"Rydyn ni wrth ein bodd i weld y gwelliannau cyntaf yn amlygu yn barod ym Mhont-y-pŵl, wrth i’r potiau planhigion newydd gael eu gosod.
"Mae’r diwrnod torchi llewys yfory yn enghraifft gadarnhaol arall o gydweithio rhwng busnesau, gwirfoddolwyr, grwpiau cymunedol a thimau’r Cyngor i wneud gwahaniaeth gweladwy i ganol y dref."
Meddai Dyl Delaney, Cadeirydd Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl: "Mae digwyddiadau fel hyn yn cynrychioli Bargen Torfaen ar ei gorau, gan ddod â thrigolion, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol at ei gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymuned.
"Mae'n wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn helpu i wella canol y dref i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma neu’n ymweld."
Digwyddiad Pont-y-pŵl yw'r cyntaf mewn cyfres o fentrau Trefi Gyda'i Gilydd sydd wedi'u cynllunio ar draws y Fwrdeistref, ac mae digwyddiad hefyd wedi'i gynllunio ym Mlaenafon ym mis Tachwedd.
Ar hyn o bryd rydyn ni eisiau awgrymiadau ynghylch pa stryd i'w thargedu ym Mlaenafon, felly os oes gennych unrhyw syniadau, cymerwch ran yn yr arolwg (yn agor mewn tab newydd).