Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Diwrnod Torchi Llewys Trefi Gyda'i Gilydd Pont-y-pŵl

Images of before and after clean up work completed in Pontypool

Mae grwpiau gwirfoddol a busnesau wedi cofrestru i gymryd rhan yn niwrnod torchi llewys Trefi Gyda'i Gilydd Pont-y-pŵl y penwythnos nesaf.

Mae yna wahoddiad i gwrdd y tu allan i fynedfa Lower Crane Street i Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl o 9am ddydd Sadwrn 26 Medi i helpu i lanhau a chwynnu ardaloedd ar Crane Street a The Link, Commercial Road a George Street.

Mae'n dilyn gwaith gan dîmau'r Cyngor i dorri ardaloedd mwy o ordyfiant ac ysgubo strydoedd yn rhan o raglen newydd Trefi Gyda'i Gilydd, a fydd yn golygu bod timau'r Cyngor, busnesau, trigolion, grwpiau gwirfoddol a phartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i adnabod a gwella canol trefi.

Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae yna botensial i ganol ein trefi fod wrth galon ein cymunedau unwaith eto, ond mae angen dull gweithredu cyson a chydlynol arnynt.

"Rydyn ni wedi gwrando ar fusnesau a thrigolion sy'n dweud eu bod yn rhwystredig gyda’r ffordd y mae canol trefi Pont-y-pŵl a Blaenafon yn benodol yn edrych, a'r siopau gwag.

"Er bod gan y Cyngor rhan sylweddol i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r pwyntiau hynny, allwn ni ddim datrys y problemau i gyd. Mae angen i gymunedau, unigolion a landlordiaid ddangos eu bod yn caru’r mannau lle maen nhw'n byw a chymryd camau cadarnhaol i ofalu amdanynt.

"Gyda'n gilydd, gallwn drawsnewid canol ein trefi yn ardaloedd y mae pobl eisiau ymweld â nhw a busnesau eisiau buddsoddi ynddyn nhw."

Meddai Dyl Delaney, Cadeirydd Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl: "Mae'r tasglu’n cynnwys cynrychiolwyr o bum grŵp gwirfoddol ac mae'n ymgorffori ethos cydweithio.

"Dyna pam rydyn ni mor falch ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor o'r dechrau’n deg wrth gynllunio diwrnod gweddnewid y dref.

"Mae digwyddiadau fel hyn yn cynrychioli Bargen Torfaen ar ei gorau, ac yn dod â thrigolion, gwirfoddolwyr a mudiadau lleol at ei gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymuned. O bydded i’r cydweithio barhau."

Ochr yn ochr â'r glanhau, bydd pobl ifanc yn creu murlun ar balisau tu allan i Eglwys Iago Sant ar Hanbury Road.

Mae Hyb Cymunedol Coedwedd a Mens Shed Coed Cae yn adeiladu potiau planhigion a fydd yn cael eu gosod yng nghanol y dref ac yn cael eu mabwysiadu gan grwpiau busnes a chymunedol lleol.

Mae'r fenter Trefi Gyda'i Gilydd yn cynnwys cynlluniau i wella arosfannau bysiau ar draws y Fwrdeistref a chyfres o furluniau i annog ymwelwyr ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Cynhelir digwyddiad nesaf Trefi Gyda'i Gilydd ym Mlaenafon ac rydyn ni’n chwilio am awgrymiadau o ran pa stryd i'w thargedu.

Cymerwch ran yn yr arolwg (yn agor mewn tab newydd)