
Mae grwpiau gwirfoddol a busnesau wedi cofrestru i gymryd rhan yn niwrnod torchi llewys Trefi Gyda'i Gilydd Pont-y-pŵl y penwythnos hwn.
Gwahoddir gwirfoddolwyr i gwrdd y tu allan i fynedfa Lower Crane Street i Farchnad Dan Do Pont-y-pŵl o 9am ddydd Sadwrn i helpu i lanhau a chwynnu ardaloedd yn Crane Street a The Link, Commercial Street a George Street.
Mae'n dilyn gwaith gan dîmau'r Cyngor i dorri ardaloedd mwy o ordyfiant yn ôl ac ysgubo strydoedd yn rhan o raglen newydd Trefi Gyda'i Gilydd, a fydd yn gweld timau'r Cyngor, busnesau, trigolion, grwpiau gwirfoddol a phartneriaid yn gweithio gyda'i gilydd i nodi canol trefi a’u gwella.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae gan ein canol trefi y potensial i fod wrth galon ein cymunedau eto, ond mae angen dull gweithredu cyson a chydlynol arnynt.
"Rydyn ni wedi gwrando ar fusnesau a thrigolion sy'n dweud eu bod yn rhwystredig oherwydd y ffordd y mae canol trefi Pont-y-pŵl a Blaenafon yn benodol yn edrych, a'r siopau gwag.
"Er bod gan y Cyngor ran fawr i'w chwarae wrth fynd i'r afael â'r pwyntiau hynny, allwn ni ddim datrys y problemau i gyd. Mae angen i gymunedau, unigolion a landlordiaid ddangos eu bod yn caru’r ardal lle maen nhw'n byw a chymryd camau cadarnhaol i ofalu amdani.
"Gyda'n gilydd gallwn drawsnewid canol ein trefi yn ardaloedd y mae pobl eisiau ymweld â nhw ac mae busnesau eisiau buddsoddi ynddyn nhw."
Meddai Dyl Delaney, Cadeirydd Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl: "Mae'r tasglu’n cynnwys cynrychiolwyr o bum grŵp gwirfoddol ac mae'n ymgorffori ethos cydweithio.
"Dyna pam rydyn ni mor falch ein bod ni wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor o'r dechrau’n deg wrth gynllunio diwrnod gweddnewid y dref.
"Mae digwyddiadau fel hyn yn cynrychioli Bargen Torfaen ar ei gorau, ac yn dod â thrigolion, gwirfoddolwyr a sefydliadau lleol at ei gilydd i wneud gwahaniaeth go iawn yn ein cymuned. O bydded i’r cydweithio barhau."
Ochr yn ochr â'r gwaith glanhau, bydd pobl ifanc yn creu murlun ar brennau y tu allan i Eglwys Sant Iago ar Hanbury Road.
Mae'r fenter Trefi Gyda'i Gilydd yn cynnwys cynlluniau i wella arosfannau bysiau ar draws y Fwrdeistref a chyfres o furluniau i annog ymwelwyr ac atal ymddygiad gwrthgymdeithasol.
Cynhelir y digwyddiad Trefi Gyda'i Gilydd nesaf ym Mlaenafon ym mis Medi ac rydyn ni’n chwilio am awgrymiadau o ran pa stryd i'w thargedu.
Gallwch gwrdd â'r tîm Trefi Gyda'i Gilydd yn nigwyddiad diwedd yr haf Cyngor Tref Blaenafon ddydd Sadwrn, 5 Medi.