
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen wedi ennill dwy wobr genedlaethol yng Ngwobrau Children and Young People Now yn Llundain, ar ôl cael eu henwebu am y tro cyntaf.
Mae Gwobrau Children and Young People Now, a gynhaliwyd ddydd Iau 20 Tachwedd, ymhlith yr anrhydeddau mwyaf uchel eu bri yn y sector, sy’n dathlu arferion rhagorol ledled y DU.
Cyrhaeddodd y gwasanaeth restr fer ar gyfer Gwobr Chwarae a Gwobr Gwirfoddoli a Gweithredu Cymdeithasol, i gydnabod y twf a'r effaith ryfeddol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
Mae'r hyn a ddechreuodd fel tîm bach a oedd yn cynnig cyfleoedd chwarae ar ddechrau’r 21ain ganrif, wedi ehangu i fod yn wasanaeth uchel ei barch sy'n cynnig mwy na 100 o ddarpariaethau chwarae o safon bob blwyddyn i tua 8,000 o blant a phobl ifanc.
Dathlwyd eu Prosiect Gwirfoddoli arobryn i Bobl Ifanc am y rôl a chwaraeodd i drawsnewid bywydau pobl ifanc. Mae tua 200 o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi bob blwyddyn i helpu i gyflwyno'r rhaglen chwarae.
Mae'r prosiect yn rhoi cyfle i bobl ifanc gael profiad gwaith ystyrlon, cyfleoedd i arwain, a sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr.
Mae’r prosiect wedi darparu dros 32,000 o oriau gwirfoddoli ar gyfartaledd, sy’n drawiadol dros ben.
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr y Gwasanaeth Chwarae: “Roedden ni wrth ein bodd i gyrraedd y rhestr fer ar gyfer dwy wobr, felly roedd ennill y ddwy yn anhygoel!.
"Mae'r fath gyflawniadau yn adlewyrchu ymroddiad ein staff, gwirfoddolwyr, pobl ifanc, a phartneriaid sy'n gwneud y gwasanaeth mor arbennig."
Mae Chwarae Torfaen yn cynnig ystod eang o weithgareddau, gan gynnwys sesiynau chwarae mynediad agored, rhaglenni cyffrous yn ystod y gwyliau, clybiau brecwast, clybiau ar ôl ysgol, gwersylloedd Bwyd a Hwyl, a chymorth pwrpasol i deuluoedd ag anghenion ychwanegol.
Yn gynharach eleni, fe wnaethant gyflwyno Ystafelloedd Chwarae Synhwyraidd newydd, gan ehangu eu cefnogaeth i deuluoedd â phlant agored i niwed a phlant anabl, trwy greu mannau mwy cynhwysol ar draws y fwrdeistref.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae'r ddau lwyddiant yn rhoi lle blaenllaw i Wasanaeth Chwarae Torfaen ymhlith y prif ddarparwyr chwarae a chymorth ieuenctid ledled y wlad.
"Ein blaenoriaeth yw rhoi'r dechrau gorau posibl i blant mewn bywyd a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb trwy ganolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynnar, wrth helpu pobl ifanc i ennill y cymwysterau a'r sgiliau, sydd eu hangen arnynt i fyw bywydau cadarnhaol ac annibynnol
I weld y gweithgareddau, digwyddiadau a darpariaethau sydd ar y gweill gan y gwasanaeth, ewch i wefan Cysylltu Torfaen. (yn agor mewn tab newydd)
Dysgwch fwy am Wasanaeth Chwarae Torfaen drwy roi clic ar wefan Cyngor Torfaen.