
Mae Gwasanaeth Chwarae Torfaen yn taro’r tarmac yr haf hwn gyda dwy fan chwarae symudol newydd sbon, gan ddod â’r holl hwyl a chreadigrwydd i blant ar draws y Fwrdeistref.
Mae'r faniau dan eu sang yn llawn offer chwarae a chwaraeon, darnau rhydd, a jenga anferth, a byddant yn cynnwys celf a chrefft hefyd.
Byddant yn ymddangos mewn cymdogaeth ger stepen eich drws o'r mis nesaf, gan droi parciau, mannau agored a thiroedd ysgol yn ardaloedd chwarae cyffrous.
Bydd Parc Chwarae Henllys yn cynnal y sesiwn gyntaf ddydd Mawrth 2 Mehefin, rhwng 4pm a 5.30pm, a bydd hynny’n parhau bob wythnos hyd nes ddiwedd y tymor.
Byddwn yn rhannu rhagor o ddyddiadau chwarae symudol ar dudalen Facebook Gwasanaeth Chwarae Torfaen a gwefan Cysylltu Torfaen - http://www.connecttorfaen.org.uk
Meddai Julian Davenne, Rheolwr y Gwasanaeth Chwarae:
"Rydyn ni'n gyffrous dros ben i fynd â'n Gwasanaeth Chwarae, sydd wedi ennill gwobrau, allan ar y ffordd ac i galon ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd lle dyw plant ddim â mynediad hawdd at gyfleoedd chwarae bob tro.
"Mae plant yn dysgu trwy chwarae, yn meithrin hyder ac yn datblygu sgiliau bywyd hanfodol. Trwy ddod â chwarae'n nes at adref, rydyn ni’n helpu plant i dyfu, meithrin cysylltiadau a ffynnu – ac mae hynny wrth galon Bargen Torfaen."
Y sbardun tu ôl i’r Prosiect Chwarae Allgymorth newydd oedd adborth gan blant a theuluoedd trwy Asesiad Digonolrwydd Chwarae Torfaen, a amlygodd yr angen am fwy o gyfleoedd chwarae yn yr awyr agored yn lleol, yn enwedig mewn ardaloedd lle mae trafnidiaeth yn gyfyngedig.
Cefnogwyd y syniad hefyd gan Gynulliad Dinasyddion Torfaen, lle galwodd trigolion am weithgareddau mwy hygyrch i blant a phobl ifanc.
Ariannwyd y prosiect trwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan, a helpodd i drawsnewid dau o gerbydau’r Cyngor.
Yn ogystal â'r unedau symudol, bydd mwy na 25 o sesiynau chwarae yn cael eu cynnal bob dydd yn ystod cyfnod gwyliau'r haf, i blant 5–12 oed, gyda chefnogaeth staff a gwirfoddolwyr wedi’u hyfforddi.
Bydd gweithgareddau ychwanegol hefyd yn cael eu cynnig i blant a phobl ifanc y mae angen cymorth ychwanegol arnynt.
Am ragor o wybodaeth am raglenni'r Gwasanaeth Chwarae, ewch i wefan Cyngor Torfaen neu anfonwch neges trwy e-bost i torfaenplay@torfaen.gov.uk