Cynlluniau i wella lefelau dŵr y gamlas

Temporary dam on the Monmouthshire and Brecon Canal north of the Basin

Mae yna gynlluniau ar y gweill i sicrhau bod modd cynnal lefelau dŵr yn y gamlas yn dilyn y cyfnodau o dywydd poeth yn ddiweddar.

Mae rhannau o Gamlas Sir Fynwy a Brycheiniog wedi sychu yr haf hwn oherwydd diffyg glaw a llai o ddŵr yn llifo i mewn i'r gamlas o'r ddwy afon sy’n ei bwydo yng Nghwmbrân.

Mae darn o'r gamlas sy'n eiddo i Glandŵr Cymru, i'r gogledd o Bont 47 yn Sebastopol, ar gau i gychod am i falf fethu yng ngwely’r gamlas ac achosi toriad bach yng ngwely'r gamlas.

Gosodwyd estyll atal, sy'n creu argaeau dros dro, fel mesur dros dro tra bod peirianwyr yn asesu'r sefyllfa.

Gobeithir y bydd gwaith a wnaed yn ddiweddar i leihau gollyngiadau ar hyd y rhaeadrau ger Llandowlais Street, yng Nghwmbrân, a gwaith carthu a chwynnu sydd wedi’i gynllunio ar gyfer yr hydref yn helpu i wella llif ac ansawdd y dŵr pan fydd lefelau glaw a dŵr yn cynyddu.

Meddai Chris Wyatt, Cydlynydd Camlesi’r Cyngor: "Mae gweld rhannau o'r gamlas yn sych yn ofidus i bawb, ond mae hwn wedi bod yn haf eithriadol o sych.

"Ein blaenoriaeth yw sicrhau, pan fyddwn yn cael mwy o law a dŵr yn llifo i'r gamlas, ein bod yn gallu cynnal lefel y dŵr a'r llif i gefnogi bywyd gwyllt a sicrhau bod y gamlas yn lle deniadol i ymweld ag ef.

"Yn y cyfamser, rydyn ni’n gofyn i bobl beidio â chael gwared ar unrhyw argaeau dros dro y gallant eu gweld ar hyd y gamlas. Mae'r rhain wedi'u lleoli fan hyn a fan draw ar hyd y gamlas i reoli’r dŵr, a gall ymyrryd â nhw effeithio ar y gallu i gadw’r dŵr yn y gamlas".

Ym mis Mehefin, cliriodd timau'r Cyngor a gwirfoddolwyr ran o'r gamlas ger Dwy Loc a oedd wedi gordyfu, ar ôl darganfod pysgod marw yn yr ardal.

Credir bod y pysgod wedi marw yn dilyn gostyngiad yn lefelau’r ocsigen oherwydd bod planhigion wedi gordyfu, gostyngiad yn lefelau’r dŵr a'r tywydd mor boeth.

Ar ôl cymeradwyaeth Cyfoeth Naturiol Cymru, gweithiodd gwirfoddolwyr o Grŵp Camlas Pont 46 i Bum Loc, Ymddiriedolaeth Camlesi Sir Fynwy, Brycheiniog a'r Fenni a Chymdeithas Bysgota Cwmbrân, ochr yn ochr â chydlynydd y gamlas, Chris Wyatt, a chynghorwyr, i glirio sianel drwy'r llystyfiant fel mesur dros dro nes i'r gwaith ar raddfa fawr gael ei wneud yn yr hydref.