Cynlluniau ar gyfer placiau meinciau Hapus i Sgwrsio

H2Chat designs

Bydd dau gant o blaciau’n cael eu hychwanegu i feinciau ar lwybrau cerdded a seiclo i annog pobl i aros a sgwrsio.

Yn gynharach y mis hwn, gofynnwyd i ddisgyblion ysgolion cynradd ac uwchradd ddylunio placiau Hapus i Sgwrsio. Cyflwynwyd cyfanswm o 90 o ddyluniadau gyda rhai nawr ar y rhestr fer.

Gofynnir i aelodau o'r cyhoedd bleidleisio dros eu hoff rai - gyda'r ddau uchaf yn cael eu gwneud yn blaciau.

Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae llwybrau teithio llesol yn rhwydweithiau sy'n cysylltu cymunedau - rydym yn gobeithio y bydd meinciau Hapus i Sgwrsio yn helpu i gysylltu unigolion.

"Mae manteision iechyd gweithgarwch corfforol fel cerdded a beicio yn ddigon hysbys , ond mae bod yn yr awyr agored yn cael effaith gadarnhaol ar ein lles meddyliol ac emosiynol hefyd.

"Mae stopio a sgwrsio â phobl - hyd yn oed dim ond i siarad am y tywydd - hefyd yn rhoi budd sylweddol i'n hwyliau a'n hymdeimlad o berthyn."

Gallwch bleidleisio dros eich hoff ddyluniad drwy ddilyn Cyngor Torfaen ar Facebook. Bydd y bleidlais yn cau ddydd Sul 8 Mawrth.

Bydd yr enillwyr yn derbyn taleb Amazon a bag nwyddau sy'n cynnwys potel ddŵr, cylchoedd allweddi a deunydd ysgrifennu. Bydd yr ail safle hefyd yn derbyn bag o bethau.

Bydd y placiau'n cael eu rhoi ar feinciau ar hyd llwybrau teithio llesol a gofynnir i aelodau o'r cyhoedd awgrymu meinciau yn eu hardal leol. Bydd placiau hefyd yn cael eu hychwanegu at feinciau ar diroedd ysgolion.

Mae'r placiau a'r gwobrau mainc Hapus i Sgwrsio’n cael eu hariannu gan dîm Teithio Llesol y cyngor.