Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Penodi Partner Datblygu a Buddsoddi

Benji Slater from Cityheart, Cllr John Morgn, Cllr Joanne Gauden, Chris Wheeler from Willmott Dixon Developments
Benji Slater from Cityheart, Cllr John Morgn, Cllr Joanne Gauden, Chris Wheeler from Willmott Dixon Developments

Mae cynghorau Torfaen a Blaenau Gwent wedi mynd cymeradwyo penodi Willmott Dixon Developments yn Bartner Datblygu a Buddsoddi Strategol, er mwyn bwrw ymlaen â’u cyfleoedd adfywio, buddsoddi a datblygu.

Gan weithio mewn partneriaeth â’r arbenigwr adfywio Cityheart, bydd Willmott Dixon Developments yn helpu i ganfod cyfleoedd, eu hasesu a’u datblygu er mwyn darparu cartrefi newydd, cyfleoedd cyflogaeth, gwella seilweithiau, mewnfuddsoddi a chreu manteision ehangach i gymunedau yn ardaloedd y ddau gyngor.

Bydd y bartneriaeth yn mynd ati i adolygu safleoedd strategol ar draws Torfaen a Blaenau Gwent yn ystod y 12 mis nesaf, gan helpu i ganfod cyfleoedd i ddatblygu a buddsoddi, a chefnogi'r gwaith o gyflawni'r Cydgynllun Datblygu Lleol.

Sefydlwyd y Bartneriaeth Datblygu a Buddsoddi Strategol er mwyn darparu mwy o arbenigedd yn y maes datblygu a deall mwy am gapasiti a buddsoddi, a hynny wrth sicrhau bod y ddau gyngor yn cadw rheolaeth dros benderfyniadau allweddol sy'n ymwneud â thir, cyllid a’r dasg o gymeradwyo prosiectau.

Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r ddau gyngor wedi ymrwymo i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau yn ein cymunedau. Mae gwaith adfywio a phrosiectau sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Marmot ac yn cyflawni'r amcanion llesiant yn ein Cynllun Sirol, yn rhan ganolog o'r ffordd rydym yn mynd ati i yrru twf economaidd.

"Bydd partneriaeth strategol yn gweithredu fel mecanwaith cyflawni allweddol i wireddu’r uchelgais, sbarduno’r adfywio, gwneud y mwyaf o gyfleoedd datblygu cymhleth, defnyddio buddsoddiadau allanol i’r eithaf a datgloi cyfleoedd i ddarparu tai o safon a swyddi sylweddol."

Dywedodd y Cynghorydd John Morgan, Aelod o Gabinet Economi a Lle, Cyngor Blaenau Gwent: "Mae'r bartneriaeth hon yn gam pwysig i'n helpu i wireddu ein huchelgeisiau ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen, ein partner ffederal. Trwy gyfuno ein gwybodaeth a'n gweledigaeth leol ag arbenigedd yn y maes datblygu, gallwn gyflymu prosiectau adfywio, denu buddsoddiad pellach a chreu cyfleoedd sydd o fudd i'n cymunedau ar gyfer cenedlaethau i ddod.

"Mae ein ffocws yn parhau i fod ar ddarparu cartrefi o ansawdd uchel, gwella seilwaith, cefnogi busnesau lleol a chreu'r amodau ar gyfer twf economaidd cynaliadwy. Bydd gweithio gyda phartner strategol yn cyfnerthu ein gallu i ddatgloi safleoedd cymhleth a chyflwyno prosiectau fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i drigolion ledled y fwrdeistref sirol."

Bydd Willmott Dixon Developments yn cyflawni'r rôl mewn partneriaeth â Cityheart, gan fanteisio ar brofiad y ddau sefydliad o ran cyflwyno prosiectau cymhleth yn y maes adfywio a datblygu.

Dywedodd Chris Wheeler, Pennaeth Datblygu Cenedlaethol (Adfywio), Willmott Dixon Developments: "Rydym yn falch o gael ein penodi'n Bartner Datblygu a Buddsoddi ar gyfer Blaenau Gwent a Thorfaen.

"Gan weithio ochr yn ochr â Cityheart, byddwn yn cefnogi'r ddau gyngor i adolygu’r portffolio safleoedd strategol cychwynnol a chanfod cyfleoedd a all greu manteision parhaol i gymunedau lleol.

"Mae gan Grŵp ehangach Willmott Dixon gysylltiadau cryf â'r rhanbarth eisoes, am eu bod wedi cyflawni prosiectau sy’n cynnwys Swyddfa Cofnodion ac Archifau Gwent a Chanolfan Hamdden Glynebwy, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y cysylltiad hwnnw.”

Meddai Benji Slater, Cyfarwyddwr Datblygu cwmni Cityheart: “Mae'r bartneriaeth rhwng Willmott Dixon Developments a Cityheart yn adlewyrchu’r ymrwymiad yr ydym yn ei rhannu i weithio ochr yn ochr â chynghorau Blaenau Gwent a Thorfaen. Dyma ddau awdurdod sydd â gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol eu cymunedau.

“Y rhan hon o Gymru lywiodd y byd diwydiannol, ac mae gennym gyfle prin i adeiladu ar yr etifeddiaeth honno a'r balchder lleol, trwy ddatgloi buddsoddiad hirdymor, creu cartrefi a swyddi newydd, a gadael gwaddol a fydd yn parhau am genedlaethau. Mae'n gyfle hynod gyffrous, ac ni allwn aros i ddechrau.”