
I lawer o bobl, mae TGAU yn rhywbeth o flynyddoedd eu harddegau. I Brian Jones, 86 oed, fe wnaethon nhw brofi y gall dysgu fod yn daith gydol oes.
Cafodd Brian, sy’n wreiddiol o’r Garnddiffaith, ac sydd bellach yn byw yn Fairwater, radd C mewn TGAU Mathemateg yn ddiweddar trwy Ddysgu Cymunedol i Oedolion Torfaen, a hynny dros 70 mlynedd ar ôl sefyll arholiad y tro cyntaf.
Dywedodd Brian: "Fe fethais i Maths yn 1956 ac fe ddywedais i y buaswn i’n rhoi tro arall, ond aeth bywyd yn y ffordd."
Yn gyn aelod o Fwrdd Bron Afon, penderfynodd Brian gamu yn ôl o rai o’i ymrwymiadau pan oedd yn 80 oed, ond doedd e ddim yn barod i arafu.
"Roeddwn i am gadw fy meddwl yn weithgar,” esboniodd. “Mae gen i ffrindiau a chefndryd o’r un oed sy’n byw mewn cartrefi gofal, ac roeddwn i am gadw fy meddwl yn brysur. Dyw oedran ddim yn ffactor."
Mae Brian yn adnabyddus am ei agwedd gadarnhaol ar fywyd, ac mae’n credu nad yw gwerth dysgu yn y canlyniad yn unig.
"Rydw i bob amser wedi bo yn ddyn gweddol gadarnhaol”, meddai. “P’un ai ydych chi’n llwyddo neu’n methu – dyw hynny ddim wir yn bwysig. Mae’r ffaith eich bod chi’n rhoi tro’n ddigon da."
Dewisodd Brian astudio TGAU Mathemateg fel ffordd o gadw’i feddwl yn weithgar, ond roedd mantais arall hefyd. Ar yr un pryd, roedd ei wyrion yn astudio ar gyfer TGAU hefyd, gan greu profiad ar y cyd unigryw rhwng y cenedlaethau.
Dywedodd: "Roedd bod hynny’n gyffredin yn help i fi greu cyswllt gyda fy wyrion. Roedden ni’n gallu rhannu syniadau, siarad, am waith cwrs a chefnogi ein gilydd. Roedd eisiau eu helpu yn anogaeth fawr i fi."
Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Llongyfarchiadau i Brian am gael TGAU Maths! Mae’r orchest wych hon yn profi nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu, herio eich hun a chyrraedd nodau newydd.
"Mae dysgu gydol oes nid yn unig yn cynnig cyfleoedd i wella sgiliau a gobeithion economaidd, ond mae hefyd yn chwarae rhan bwysig wrth gefnogi lles meddyliol ac emosiynol trwy ddatblygu hyder, gwytnwch ac ymdeimlad o lwyddiant."
Mae Brian nawr wedi cofrestru i astudio TGAU Saesneg o’r mis nesaf ymlaen.