
Mae'r Cyngor wedi cymryd cam pwysig tuag at wella gwasanaethau ailgylchu yn Nhorfaen trwy brynu safle ym Mlaenafon.
Yn amodol ar gymeradwyaeth gynllunio, gallai'r safle, a oedd yn arfer bod yn gartref i gyfleuster ailgylchu Capital Valley, fod yn gartref i gyfleuster prosesu ailgylchu newydd sydd ar flaen y gad, o 2028.
Byddai’r datblygiad, yn Unedau 1 a 2 ar Ystâd Ddiwydiannol Kays a Kears, yn dod â seilwaith ailgylchu modern ac effeithlon i ogledd y Fwrdeistref.
Os caiff ei gymeradwyo, bydd yr holl ddeunydd i’w ailgylchu rydyn ni’n ei godi wrth ymyl y ffordd ar draws Torfaen yn dod i'r cyfleuster newydd, lle bydd yn cael ei ddidoli a'i baratoi ar gyfer gweddill ei daith.
Yna, bydd contractwyr yn cludo'r deunyddiau i safleoedd ailbrosesu arbenigol, fel Stormy Down ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae gwastraff bwyd Torfaen yn cael ei droi'n ynni.
Bydd y cyfleuster newydd yn helpu i ddarparu gwasanaeth ailgylchu mwy cydnerth a pharod i'r dyfodol, ac mae'n garreg filltir allweddol yn Strategaeth Gwastraff ac Ailgylchu'r Cyngor ar gyfer 2025–2030.
Dim ond ar ôl cael cymeradwyaeth gynllunio a sicrhau digon o gyllid allanol y bydd y prosiect yn mynd yn ei flaen. Disgwylir i'r cyllid ddod o gyfuniad o gyfalaf a ddyrannir gan y Cyngor, cyllid Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr Estynedig, a chymorth ariannol a geisir gan Lywodraeth Cymru.
Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae prynu'r safle hwn yn gam cyffrous ymlaen i Dorfaen ac yn gyfle gwirioneddol i'r ardal leol.
"Byddwn yn parhau i ymgysylltu â'r gymuned leol wrth i'r prosiect hirdymor hwn ddatblygu, i chwilio am ffyrdd o gefnogi'r hyn a gynigir yn lleol.
"Byddai cyfleuster prosesu modern yn cwrdd â'r galw presennol a hefyd yn cefnogi gofynion cenedlaethol newydd, gan gynnwys casglu ffilm plastig ymestynnol.
"Mae gwasanaethau amgylcheddol yn sector sy'n tyfu ac mae ganddo botensial go iawn i sicrhau buddion yn lleol, a bydd creu cyfleuster modern sy’n cael ei reoli’n dda yn golygu bod y safle hwn yn cael ei ddefnyddio’n gynhyrchiol unwaith eto i Flaenafon.
"Mae ein cyfleuster ailgylchu presennol yn gweithredu ar gapasiti llawn ac ni ellir ei ehangu ymhellach, felly mae'r lleoliad newydd hwn yn rhoi cyfle i ni foderneiddio, prosesu mwy o ddeunyddiau i’w hailgylchu, a pharatoi ar gyfer newidiadau i ddeddfwriaeth yn y dyfodol.
"Rydym yn deall y bydd gan drigolion gwestiynau am y safle felly rydym yn creu tudalen arbennig ar y we i fynd i'r afael ag unrhyw bryderon."
Mae trigolion Torfaen yn ailgylchu 65% o'u gwastraff yn barod, a bydd y cyfleuster newydd hwn yn chwarae rhan bwysig i helpu'r Fwrdeistref i weithio tuag at darged ailgylchu Llywodraeth Cymru o 70%.