
Mae tri pherson ifanc wedi cofrestru i ymuno â rhaglen Arweinwyr Ifanc nesaf y cyngor.
Dros y flwyddyn nesaf, bydd Charlotte Rapier, Ellen Marsh a Riley Heard yn gweithio gyda thimau'r cyngor, yn dilyn aelodau etholedig, yn mynychu cyfarfodydd y cyngor ac yn cefnogi'r fforwm ieuenctid.
Mae'r fenter yn cynnig cyfle i aelodau Fforwm Ieuenctid Torfaen barhau i ddysgu am lywodraeth leol a chael profiad o arwain ar ôl iddyn nhw adael yr ysgol uwchradd.
Dywedodd Charlotte: "Bydd yn wych gallu parhau i gefnogi Fforwm Ieuenctid Torfaen a bod yn rhan o Gyngor Torfaen."
Ychwanegodd Riley: "Rwy'n teimlo bod hwn yn gyfle gwych i fod yn fwy cysylltiedig â democratiaeth leol a'r cyngor."
Fis diwethaf, Boyd Paynter, o Flaenafon, a Corban Edwards, o Gwmbrân, oedd yr Arweinwyr Ifanc cyntaf i gwblhau'r rhaglen.
Dywedodd Boyd oed: "Mae'r rhaglen Arweinwyr Ifanc yn gyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn democratiaeth leol a chynrychiolaeth ieuenctid."
Dywedodd Philip Wilson, swyddog cyfranogiad plant a phobl ifanc y cyngor: "Rydym yn hynod falch o'r hyn y mae Boyd a Corban wedi'i gyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y Rhaglen Arweinwyr Ifanc.
"Maen nhw a'r bobl ifanc eraill rydyn ni'n gweithio â nhw’n cynrychioli barn eu cyfoedion gydag angerdd ac ymroddiad ac maen nhw’n gwneud cyfraniad pwysig i ddemocratiaeth leol.
"Mae wedi bod yn haf prysur i bobl ifanc gymryd rhan yn Nhorfaen ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda'n cynrychiolwyr ifanc ac ysgolion yn ystod y flwyddyn academaidd nesaf."
Ym mis Awst, teithiodd Aelod Seneddol Ieuenctid newydd Torfaen, Rae Carter, i Hull gydag Aelodau eraill o Gymru i gymryd rhan yn eu cynhadledd flynyddol.
Dywedodd Rae, sydd hefyd yn aelod o'r fforwm ieuenctid: "Mae'n gyfle gwych rwy'n credu y dylai pob person ifanc gael y cyfle i'w wneud."
Tynnodd adroddiad Comisiynydd Plant Cymru ar lefelau cyfranogiad sylw at Ddiwrnodau Cymryd yr Awenau blynyddol y cyngor fel enghraifft dda o sut mae'r cyngor wedi gwneud ei hun yn atebol i bobl ifanc.
Bydd y Diwrnod Cymryd yr Awenau blynyddol nesaf yn digwydd ddydd Mawrth Ionawr 12. Mae'r digwyddiad yn agored i bob disgybl ysgol uwchradd a bydd hysbysebion swyddi yn cael eu hanfon i ysgolion cyn y Nadolig.
Bydd Fforwm Ieuenctid Torfaen, sydd hefyd yn agored i bob disgybl ysgol uwchradd, yn ailymgynnull ym mis Medi, gyda Chynghrair Ieuenctid Torfaen, sy'n agored i bobl ifanc 11-25 oed, yn cyfarfod ym mis Tachwedd.
I gael rhagor o wybodaeth am gyfranogiad pobl ifanc, cysylltwch â philip.wilson@torfaen.gov.uk