
Mae maes 3G newydd gwerth £200,000 wedi agor yn swyddogol yn Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon, gan ddarparu cyfleusterau chwaraeon wedi'u huwchraddio i ddisgyblion eu mwynhau.
Agorodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt, y maes yn swyddogol heddiw, ac mae’n cynnwys tri maes traws wedi'u marcio sy'n addas ar gyfer pêl-droed a rygbi cyswllt llawn.
Mae'r cyfleuster newydd hefyd yn cynnwys byrddau perimedr a llifoleuadau LED wedi'u huwchraddio.
Meddai Anna Britten, Pennaeth yr Ysgol: "Rydym yn falch iawn o weld y cyfleuster newydd hwn yn gwella'r cyfleoedd chwaraeon a ffitrwydd sydd ar gael ym Mlaenafon ymhellach, ochr yn ochr â'r rhai a ddarperir yn barod yng Nghanolfan Byw Egnïol Blaenafon.
"Mae'n ased gwych i ddisgyblion, trigolion a chlybiau lleol, ac yn adeiladu ar ddiwylliant chwaraeon balch y dref a'r amrywiaeth eang o weithgareddau sydd ar gael i blant ac oedolion.
"Elfen bwysig yw’r posibilrwydd i glybiau rygbi a phêl-droed lleol ddefnyddio cyfleusterau ym Mlaenafon trwy gydol y flwyddyn, gan roi cyfle i fwy o blant gymryd rhan mewn chwaraeon yn lleol, heb i drafnidiaeth fod yn rhwystr."
Mae ymholiadau gan y gymuned i ddefnyddio’r cyfleusterau yn cael eu rheoli gan Ganolfan Byw Egnïol Blaenafon a gellir eu gwneud ar wefan Ysgol Gynradd Wirfoddol a Reolir Treftadaeth Blaenafon.
Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Torfaen, a chyflawnwyd y gwaith gan GKR, ochr yn ochr â'r is-gontractwr South Wales Sports Grounds.
Daw’r datblygiad diweddaraf hwn yn sgil agor saith maes 3G a dau faes 2G mewn ysgolion ar draws y Fwrdeistref, gyda mwy na £9 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn cyfleusterau 3G a 2G ar safleoedd ysgolion ar draws Torfaen er 2019.
Meddai’r Cynghorydd Hunt: "Mae cael cyfleusterau chwaraeon o ansawdd uchel ar safleoedd ysgolion yn rhoi mwy o gyfleoedd i blant fod yn actif, datblygu eu sgiliau a mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon.
"Mae'r buddsoddiad diweddaraf hwn yn Ysgol Gynradd Treftadaeth Blaenafon yn enghraifft arall o’r ffordd yr ydym yn parhau i wella cyfleusterau i ddisgyblion a chreu amgylcheddau sy'n cefnogi eu hiechyd, eu llesiant a'u datblygiad."