
Cododd digwyddiad Menywod mewn Busnes eleni dros £1,000 i elusen.
Thema'r noson oedd iechyd meddwl a llesiant yn y gweithle, ac roedd yn cynnwys siaradwyr gwadd, cerddoriaeth fyw, cyfleoedd i rwydweithio a gwobrau raffl gwerth cannoedd o bunnau.
Bydd elw o'r raffl a 50 y cant o werthiant y tocynnau, sef cyfanswm o £1,230, yn cael ei gyflwyno i Mind yng Ngwent.
Meddai Mike Walmsley, Pennaeth Cynhyrchu Incwm a Datblygu Busnes gyda Mind yng Ngwent: "Mae pob rhodd a gawn yn ein helpu i wneud gwahaniaeth i bobl y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio arnynt, boed hynny trwy roi cefnogaeth, helpu pobl i gael mynediad at y gwasanaethau sydd eu hangen arnynt neu sicrhau nad oes neb yn teimlo bod rhaid iddynt wynebu eu heriau iechyd meddwl ar eu pen eu hunain.
"Mae cymorth fel hyn, trwy godi arian, yn amhrisiadwy i elusen leol fel ein helusen ni. Hoffem estyn ein diolchiadau diffuant i bawb a gyfrannodd i sicrhau bod y rhodd hon yn bosibl."
Daeth bron i 100 o fenywod busnes i’r digwyddiad blynyddol yng Ngwesty’r Parkway yn gynharach y mis hwn.
Cyflwynydd y noson oedd cyflwynydd BBC Cymru, Eleri Sion, ac roedd y siaradwyr yn cynnwys Sarah-Jane Waters, o Gontractwyr Adeiladu AP Waters, a Ria Gibbs a Rachel Knight, o Reflect and Refocus Positive Change Coaching.
Meddai’r Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros Yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r digwyddiad Menywod mewn Busnes yn parhau i fod yn un o uchafbwyntiau ein calendr busnes, ac yn dod â menywod ysbrydoledig ynghyd i feithrin cysylltiad, dysgu a chefnogi ei gilydd.
"Roedd hi'n wych gweld cymaint o bobl yn dod ynghyd i rannu eu profiadau, gwneud cysylltiadau newydd a chefnogi achos mor bwysig. Hoffwn ddiolch i'n siaradwyr, noddwyr, rhoddwyr y gwobrau raffl a phawb a ddaeth i’r digwyddiad, am helpu i wneud y digwyddiad mor llwyddiannus."
"Hoffai tîm ymgysylltu â busnesau’r Cyngor ddiolch i bawb a ddaeth ac a gefnogodd y digwyddiad busnes blynyddol hwn, ac maen nhw’n cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf yn barod."
Dilynwch Cyswllt Busnes Torfaen am fanylion digwyddiad Menywod mewn Busnes y flwyddyn nesaf a chyfleoedd busnes eraill.
I ymuno â chlwb rhwydweithio Llais Busnes Torfaen, cysylltwch â businessdirect@torfaen.gov.uk