Gofalwr maeth lleol yn canmol gweithiwr cymdeithasol

Carol, Foster Carer

Mae Carol, Gofalwr Maeth yn Nhorfaen, wedi diolch i'w Gweithiwr Cymdeithasol sydd wedi ei chefnogi dros y 18 mlynedd ddiwethaf.

Yn ystod Wythnos Gweithwyr Cymdeithasol y Byd eleni, mae Carol wedi rhannu pa mor hanfodol y mae cefnogaeth ei Gweithiwr Cymdeithasol, Michelle, wedi bod.

Meddai Carol, sydd wedi gofalu am 25 o blant dros yr 20 mlynedd ddiwethaf, ers dod yn ofalwr maeth cymeradwy i'r Cyngor: "Mae Michelle wedi fy nghefnogi ar y rhan fwyaf o fy nhaith faethu. Mae wedi bod ar gael ar bob adeg ac yn dod yn ôl ataf yn brydlon. Mae hefyd wedi ennyn ymddiriedaeth y plant yn fy ngofal.

"Mae Michelle yn tawelu fy meddwl ac yn fy arwain pan fyddaf yn ansicr, ac ar ôl i fy rhieni farw rhoddodd gefnogaeth emosiynol ac ymarferol i fi, gan roi cyfle i fi i alaru a pharhau i faethu ar yr un pryd."

Mae gan Maethu Cymru Torfaen 15 o Weithwyr Cymdeithasol sy'n cefnogi dros 150 o aelwydydd sy’n ofalwyr maeth, a'r plant a'r bobl ifanc yn eu gofal.

Gall y cymorth hwn gynnwys cefnogaeth ymarferol ac emosiynol, arweiniad, dysgu a datblygu a llawer mwy.

Meddai Michelle, Gweithiwr Cymdeithasol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, sydd wedi cefnogi nifer o aelwydydd sy’n maethu: "Mae'n fraint gallu gweithio gyda gofalwyr maeth, a'u cefnogi gyda'r plant sydd yn eu gofal. Rydych chi'n dod yn rhan o'u teulu ac yn dod i adnabod pawb. Rwyf wedi gwylio merched Carol ei hun yn tyfu i fyny ac yn dod yn oedolion yn ystod fy chyfnod yn ei chefnogi."

Mae ymgyrch ddiweddaraf Maethu Cymru, 'Gall Pawb Gynnig Rhywbeth', yn tynnu sylw at yr arbenigedd a'r cymorth a geir gan Weithwyr Cymdeithasol, gyda'r nod o annog mwy o bobl i ystyried maethu.

Meddai Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Cyngor Torfaen dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd, "Mae ein cymuned faethu fel awdurdod lleol, ochr yn ochr â'n Gweithwyr Cymdeithasol ymroddgar, yn cael effaith aruthrol ar fywydau ein plant mwyaf agored i niwed.

"Mae Gweithwyr Cymdeithasol a gofalwyr maeth yn hanfodol wrth ddarparu cefnogaeth a sefydlogrwydd i blant a theuluoedd mewn angen. Mae eu hymroddiad yn trawsnewid bywydau ac yn cryfhau cymunedau. Er mwyn cynnal y gwaith hanfodol hwn, mae angen mwy o Ofalwyr Maeth arnom er mwyn cynnig cartrefi diogel a gofalgar i blant a phobl ifanc yn eu cymunedau."

Ar hyn o bryd, mae tua 240 o blant a phobl ifanc yn byw yn aelwydydd gofalwyr maeth Torfaen.

Yn anffodus, mae'r galw am ofalwyr maeth yn cynyddu, ac mae angen gofalwyr newydd i ddiwallu anghenion plant a phobl ifanc, er mwyn eu helpu i ffynnu.

Am ragor o wybodaeth am sut y gallwch chi wneud gwahaniaeth i fywyd plentyn trwy ddod yn ofalwr maeth awdurdod lleol gyda Maethu Cymru Torfaen, ewch i: Maethu Yn Nhorfaen | Maethu Cymru Torfaen