Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Pâr lleol yn agor caffi newydd yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd, Blaenafon

Ashleigh Yates and Slawek Brudecki in the Little Duck Café

Mae caffi teuluol newydd wedi agor yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd Blaenafon gan gynnig cyrchfan fwyd newydd i drigolion ac ymwelwyr!.

Agorodd y Little Duck Café, sy'n cael ei redeg gan Ashleigh Yates a Slawek Brudecki, yr wythnos ddiwethaf ac mae'n cynnig amrywiaeth o opsiynau brecwast a chinio, gan gynnwys cinio dydd Sul.

Dyma'r tro cyntaf i'r pâr, sy'n byw ym Mlaenafon, redeg eu busnes eu hunain gyda'i gilydd, er bod Slawek wedi bod yn gogydd proffesiynol ers 10 mlynedd.

Dywedodd Ashleigh: "Mae agor The Little Duck Cafe yn gwireddu breuddwyd i ni. Mae'n rhywbeth rydyn ni wedi'i wneud gyda'n gilydd fel teulu, ac rydyn ni wedi’n cyffroi cymaint o fod yn creu lle croesawgar lle gall pobl ddod at ei gilydd, mwynhau bwyd a choffi da, a theimlo'n gartrefol.

"Mae enw'r caffi hefyd yn meddu ar ystyr teuluol arbennig. Mae ein merch ifanc yn ei chael hi'n anodd ynganu ei chyfenw, Brudecki, ac yn hytrach mae'n dweud "hwyaden rwber", a dyna a ysbrydolodd enw'r Little Duck Café."

"Mae'n antur fawr ac rydyn ni'n edrych ymlaen at weld ble bydd yn mynd â ni. Yn bennaf oll, rydyn ni'n gobeithio y bydd y caffi’n dod yn rhan arbennig o'r gymuned leol."

Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'n wych gweld pâr lleol yn lansio busnes newydd yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd. Rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r perchnogion gyda'u menter newydd."

Mae'r caffi, sy'n ymfalchïo mewn golygfeydd syfrdanol o safle Treftadaeth y Byd, ar agor rhwng 9.15am a 3.30pm, o ddydd Mawrth i ddydd Sul, ac mae'n cynnwys cegin agored.

Yn ogystal â'r brif fwydlen, maen nhw hefyd yn cynnig dewis o ddiodydd poeth a danteithion melys.

I gael rhagor o wybodaeth am Ganolfan Treftadaeth y Byd, ewch i www.visitblaenavon.co.uk (yn agor mewn tab newydd)