
Mae disgyblion o ysgolion cynradd Tref Gruffydd, Y Dafarn Newydd a Phen-y-garn wedi ymweld â'r Senedd fel rhan o Fforwm Iau Torfaen.
Cafodd y disgyblion eu gwahodd gan Matthew Jones AS ar ôl iddo gael ei wahodd i siarad â'r fforwm yn gynharach eleni.
Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r grŵp â Matthew a'i gyd-ASau, Lynne Neagle a Stephen John Senior, a siaradodd â'r disgyblion am eu gwaith ac ateb cwestiynau am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc.
Aeth y disgyblion hefyd ar daith o amgylch adeilad y Senedd ym Mae Caerdydd, gan ddysgu am ei ddyluniad cynaliadwy a chymryd rhan mewn gweithgareddau addysgol, gan gynnwys ffug ddadl yn Siambr y Senedd.
Dywedodd Isla, disgybl Blwyddyn 6: "Roedd gen i ddiddordeb mawr mewn clywed sut roedd adeilad y Senedd mor ecogyfeillgar."
Dywedodd Ava, sydd hefyd ym Mlwyddyn 6: "Fe wnes i fwynhau cymryd tro yn siarad yn y siambr a phwyso'r botymau i wneud i'r meicroffonau weithio."
Ychwanegodd Evelyn, disgybl Blwyddyn 5: "Fy hoff ran oedd ymuno mewn ffug ddadl ac yna pleidleisio ar y diwedd."
Dywedodd Cerian Pugh, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gynradd Tref Gruffydd: "Am brofiad ysbrydoledig ac addysgiadol a gafodd ein disgyblion.
"Cawson nhw gyfle gwych i gwrdd â Gweinidogion Cymru a dysgu sut mae deddfau'n cael eu gwneud yng Nghymru.
"Roedd yn wych gweld y disgyblion yn ymddiddori cymaint, yn gofyn cwestiynau ystyrlon ac yn dysgu mwy am sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud sy'n effeithio ar fywydau bob dydd."
Dywedodd Philip Wilson, Swyddog Ymgysylltiad a Chyfranogiad Plant a Phobl Ifanc Cyngor Torfaen: "Roedd yr ymweliad yn gyfle gwych i aelodau ein Fforwm Iau ddysgu am ddemocratiaeth ar waith ac i weld sut y gall eu lleisiau helpu i lunio penderfyniadau.
"Mae profiadau fel hyn yn annog pobl ifanc i gymryd diddordeb byw yn eu cymunedau a deall pwysigrwydd cyfranogiad o oedran ifanc."
Mae Fforwm Iau Torfaen yn dod â disgyblion o ysgolion cynradd ledled y fwrdeistref ynghyd i drafod materion sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc, datblygu eu hyder a'u sgiliau arweinyddiaeth, a dylanwadu ar benderfyniadau yn eu hysgolion a'u cymunedau lleol."
Bydd y grŵp fforwm iau yn cyfarfod ar ôl y Pasg pan fydd y disgyblion yn penderfynu ar eu prosiect nesaf ar y cyd.