Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Carcharu gwerthwyr tybaco a fêps ffug

Shop front next to an entrance to Pontypool Indoor Market

Mae dau ddyn wedi cael eu carcharu ar ôl i symiau sylweddol o dybaco anghyfreithlon, sigaréts a fêps anghyfreithlon gael eu darganfod mewn storfa gudd mewn siop stryd fawr.

Plediodd Tashin Mokhtar ac Arish Mohammedi yn euog i sawl trosedd yn Llys y Goron Casnewydd ddydd Gwener, gan gynnwys cynnal busnes twyllodrus.

Clywodd y llys fod Swyddogion Safonau Masnach wedi derbyn gwybodaeth ym mis Mawrth 2023 bod y siop ym Mhont-y-pŵl yn gwerthu tybaco anghyfreithlon a fêps tafladwy nad oeddent yn bodloni safonau diogelwch y DU.

Cadarnhaodd pryniannau prawf cychwynnol werthu sigaréts ffug a thybaco a chanfu archwiliadau dilynol sigaréts anghyfreithlon pellach a thybaco ffug, a fêps tafladwy nad ydynt oedd yn cydymffurfio.

Chwiliwyd yn y safle yn Commercial Street ym Mhont-y-pŵl fel rhan o Ymgyrch CeCe, lle daethpwyd o hyd i symiau sylweddol o dybaco, sigaréts a fêps anghyfreithlon wedi'u cuddio mewn storfa gudd y tu ôl i oergell nad oedd yn cael ei defnyddio.

Yn ddiweddarach, cafwyd cynhyrchion anghyfreithlon pellach o gerbyd a oedd yn gysylltiedig â'r busnes.

Dedfrydwyd Tahsin Mokhtar, o Gaerdydd, i gyfanswm o 28 mis o garchar am gynnal busnes twyllodrus yn groes i Ddeddf Twyll 2006, troseddau o dan Ddeddf Nodau Masnach 1994 ac am dorri Gorchymyn Cau a roddwyd o dan y Ddeddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.

Cafodd Arish Mohammedi, o Gaerdydd, ei ddedfrydu i 30 mis o garchar am gynnal busnes twyllodrus.

Cafodd gorchymyn fforffedu a dinistrio ei wneud ar gyfer y cynhyrchion anghyfreithlon hefyd.

Dywedodd Daniel Morelli, Cyd-gyfarwyddwr Cynorthwyol Diogelu'r Cyhoedd a'r Amgylchedd: "Nid yw gwerthu tybaco a fêps anghyfreithlon yn drosedd heb ddioddefwyr, gan ei fod yn tanseilio busnesau cyfreithlon, yn peri risgiau i iechyd y cyhoedd ac yn aml yn ariannu gweithgarwch troseddol ehangach.

"Mae'r erlyniad yma’n dangos ein hymrwymiad i gymryd camau cadarn yn erbyn y rheiny sy'n torri'r gyfraith ac yn ceisio elwa o fasnach anghyfreithlon.

"Canfuwyd bod tybaco a fêps anghyfreithlon yn cynnwys amrywiaeth o sylweddau, a all fod yn niweidiol i iechyd. Mae'r cosbau llym a osodwyd yn dangos bod y Llysoedd yn cymryd y troseddau hyn o ddifri."

Gall unrhyw un sydd â gwybodaeth am nwyddau ffug gysylltu â thîm Safonau Masnach y Cyngor ar 01633 647623 neu drwy e-bost at trading.standards@torfaen.gov.uk

Nodiadau i’r golygydd

Cynllun ar y cyd yw Ymgyrch CeCe rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi, ac fe’i lansiwyd yn Ionawr 2021 i daclo’r fasnach dybaco anghyfreithlon ledled y DU.