Dywedwch eich dweud ar gynigion cyllideb Cyngor Torfaen

Torfaen's budget proposals infographic

Mae Cyngor Torfaen wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ei gynigion cyllideb ar gyfer 2025-2026.

Bydd yr ymgynghoriad yn para tan hanner nos ddydd Gwener 14 Chwefror, 2025. Mae'r holl wybodaeth am gynigion y gyllideb ac arolwg byr i'w gwblhau ar gael ar dweudeichdweud.torfaen.gov.uk (yn agor mewn tab newydd).

Eleni, derbyniodd y cyngor gynnydd o 4.8% yn y setliad drafft gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid ychwanegol i dalu am ddyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol i staff.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Er gwaethaf pwysau ariannol parhaus a grëwyd gan y galw am wasanaethau a chwyddiant, mae'r cyngor mewn sefyllfa dda i gyflwyno cyllideb gytbwys a chyflawni blaenoriaethau ein cynllun sirol ar gyfer cymunedau'r flwyddyn nesaf.

"Mae ein cynigion yn argymell buddsoddiad ychwanegol mewn ysgolion ac addysg, yn osgoi toriadau i wasanaethau lleol hanfodol, yn helpu i gyflawni'r blaenoriaethau yng Nghynllun Sirol y cyngor ac yn cefnogi un o'r codiadau treth gyngor isaf yng Nghymru gyda chefnogaeth i 10,000 o gartrefi drwy'r cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Nawr mae'r cyngor eisiau clywed eich barn."

Hyd nes y bydd setliad terfynol Llywodraeth Cymru yn cael ei gadarnhau, mae'r cynigion canlynol yn cael eu cyflwyno:

  • Cynnydd o 6.9% neu £5.35 miliwn i ysgolion Torfaen,
  • Buddsoddiad pellach o £750,000 i gefnogaeth hanfodol Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • £800,000 yn ychwanegol i ehangu Ysgol Arbennig Crownbridge
  • £800,000 i fodloni pwysau yn y galw am Gludiant i’r Ysgol ac Anghenion Dysgu Ychwanegol.
  • Cynnydd o 5% i ddarparwyr Gofal Cymdeithasol i gydnabod effaith y Cyflog Byw Gwirioneddol.
  • £1m yn ychwanegol i wasanaethau Gofal Cymdeithasol i Oedolion.
  • £1m yn ychwanegol i drawsnewid Gwasanaethau Plant er mwyn talu costau gofal
  • £385,000 yn ychwanegol o fodloni pwysau costau yn y gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu
  • Buddsoddiad o £227,000 mewn tîm addysg a gorfodaeth gwastraff i helpu ymgyrch ailgylchu codi’r gyfradd
  • £250,000 i barhau â’r cynllun cyflogaeth a phrentisiaethau i’r rheiny sy’n gadael yr ysgol.
  • £534,000 i gefnogi bron i 10,000 o gartref yn Nhorfaen trwy’r cynllun Gostyngiad Treth y Cyngor.

Cynigir £29 miliwn pellach ar gyfer buddsoddiad cyfalaf y flwyddyn nesaf a fydd yn rhan o Strategaeth Cyllid Cyfalaf y cyngor, gan gynnwys ystyriaeth ar gyfer ysgolion, mannau cyhoeddus ac arwynebau ffyrdd a phalmentydd ynghyd â chyllid ar gyfer grantiau cyfleusterau i'r anabl sy'n helpu pobl i aros yn eu cartrefi. Bydd hyn yn cynnwys ystyried sut mae'r cyngor yn defnyddio cyllid newydd gan Lywodraeth Cymru i helpu i wella ffyrdd lleol.

Ewch i dweudeichdweud.torfaen.gov.uk (yn agor mewn tab newydd) dim hwyrach na hanner nos dydd Gwener, 14 Chwefror, 2025.