Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Dywedwch eich dweud ar fywyd yn Nhorfaen

torfaen residents' survey 2026 poster

Mae pobl ledled y fwrdeistref yn cael eu hannog i gymryd rhan yn arolwg trigolion eleni.

Bydd arolwg trigolion Sgwrsio Am: Byw yn Nhorfaen yn digwydd o ddydd Llun 14 Medi tan ddydd Sul 25 Hydref, 2026, gan roi cyfle i drigolion rannu eu barn ar bopeth o’u hardal leol a gwasanaethau’r cyngor, i fywyd cymunedol, lles a democratiaeth leol.

Mae’r arolwg yn rhan o’r Arolwg Trigolion Cenedlaethol a drefnir gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac sy’n cael ei gynnal gan nifer o awdurdodau lleol ar draws Cymru.

Gallwch gymryd rhan trwy fynd at Cymerwch Ran Torfaen (yn agor mewn tab newydd), platfform ymgynghoriad ac ymgysylltiad y cyngor.

Er mwyn sicrhau y gall pawb gymryd rhan, bydd copïau papur a fersiynau hawdd eu darllen o’r arolwg ar gael hefyd o’r Ganolfan Ddinesig ym Mhont-y-pŵl, yn ogystal ag o lyfrgelloedd ym Mlaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl.

Mae arolwg eleni’n cynnwys cwestiynau am fywyd cymunedol, fel pa mor gysylltiedig i’w hardal mae pobl yn teimlo, p’un a ydyn nhw’n teimlo’n rhan o’u cymuned a beth allai eu hannog i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau lleol a gwirfoddoli.

Bydd yr adborth yn helpu i gefnogi nod Bargen Torfaen o greu cymunedau ffyniannus, cysylltiedig, lle gall pobl fyw’n dda a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Rydym yn gwybod bod yn y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud yn gryfach pan fyddan nhw’n cael eu goleuo gan y bobl sy’n byw yma.

"P’un a ydych chi am ddweud am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn gywir, eisiau pwysleisio’r hyn sydd angen ei wella, neu rannu eich profiadau o fyw yn Nhorfaen, rydw i’n eich annog i gymryd rhan. Mae nifer o’n timau rheng flaen a sefydliadau partner lleol hefyd yn ein helpu i rannu’r ymgynghoriad yma gyda chymunedau.

"Gall deg munud o’ch amser helpu i siapio gwasanaethau’r dyfodol, dylanwadu ar flaenoriaethau lleol a chefnogi uchelgeisiau Bargen Torfaen. Mae pob ymateb yn cyfrif, felly gwnewch yn siŵr ein bod yn clywed eich llais."

Gall trigolion gwblhau’r arolwg o 14 Medi tan 25 Hydref trwy fynd at cymrydrhan.torfaen.gov.uk