
Bydd gan bobl ifanc yng Nghwmbrân le newydd i gyfarfod, ymlacio a chymryd rhan mewn gweithgareddau hanner tymor mis Hydref.
Bydd y Ddihangfa Hanner Tymor, a gyflwynir gan Wasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen, yn cynnig gemau, gweithgareddau a heriau, yn ogystal â lle i ymlacio a threulio amser gyda ffrindiau.
Mae'r ddarpariaeth wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 8 a 14 oed a bydd yn digwydd yn Sgwâr Gwent, Canolfan Cwmbrân.
Gall pobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau wedi'u trefnu neu aros a sgwrsio gyda thîm y Gwasanaeth Chwarae, a threulio amser yn ymlacio mewn ardaloedd dynodedig.
Mae'r cynllun peilot yn dilyn pryderon a fynegwyd yn ystod y misoedd diwethaf gan fusnesau lleol a'r gymuned am ymddygiad gwrthgymdeithasol yng nghanol y dref a'r cyffiniau.
Bydd Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru, Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Torfaen a'r tîm Diogelwch Cymunedol hefyd yn galw heibio yn ystod yr wythnos i gynnig cefnogaeth, cyngor a chyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu.
Dywedodd Julian Davenne, Rheolwr Gwasanaeth Chwarae Cyngor Torfaen:
"Mae’r Ddihangfa Hanner Tymor yn ymwneud â chymryd dull ataliol trwy roi rhywle cadarnhaol a chroesawgar i bobl ifanc dreulio eu hamser yn ystod gwyliau'r ysgol.
"Mae wedi datblygu trwy sgyrsiau gyda busnesau, y gymuned a'n partneriaid am sut y gallwn ymateb yn gadarnhaol i bryderon ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol.
"Trwy ddod â gwasanaethau, gwirfoddolwyr, busnesau a phobl ifanc at ei gilydd, gallwn greu ateb ar y cyd. Rhaglen beilot yw hon, ond os bydd yn llwyddiannus, rydym yn gobeithio adeiladu ar y dull a pharhau â'r ddarpariaeth cyhyd ag y bydd ei angen."
Bydd y Ddihangfa Hanner Tymor yn digwydd o ddydd Llun i ddydd Iau, rhwng 10am a 3pm, gyda gwirfoddolwyr chwarae hefyd wrth law i gyflwyno gweithgareddau.
Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Mae hon yn enghraifft wych o bartneriaid yn gwrando ar bryderon o fewn y gymuned ac yn gweithio gyda'i gilydd i ddod o hyd i ateb cadarnhaol.
"Mae rhoi lle diogel a chroesawgar i'n plant a'n pobl ifanc gwrdd â ffrindiau a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn dda iddyn nhw, busnesau lleol a'r gymuned ehangach."
Does dim angen cadw lle i gymryd rhan. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â torfaenplay@torfaen.gov.uk neu ewch i wefan Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).