Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gwaith celf newydd Blaenafon yn rhan o lwybr murluniau

Two ladies stood in front of a building with a partial mural behind them

Mae gwaith ar y gweill ar furlun ym Mlaenafon ac mae yna wahoddiad i aelodau o'r gymuned gymryd rhan.

Bydd y murlun, sy'n dathlu treftadaeth flodau'r dref, yn cael ei beintio ar y tu allan i siop flodau Botanic Possessions, yn Broad Street, yn rhan o lwybr murluniau newydd.

Meddai perchennog y busnes a phreswylydd lleol Kate Hiscock: "Pan brynon ni'r adeilad, roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwneud rhywbeth gyda'r tu allan a fyddai'n gwneud i bobl stopio ac edrych.

"Mae gan Flaenafon gymaint i'w gynnig, ac roeddwn i eisiau creu rhywbeth a fyddai'n denu pobl i'r ardal ac yn dathlu rhywbeth y tu hwnt i'n treftadaeth ddiwydiannol.

"Dechreuodd y murlun fel syniad, ac mae'n wych nawr ein bod ni’n gallu ei ddatblygu fel prosiect cymunedol."

Ysbrydolwyd dyluniad y murlun gan hanes Parc Blodau Blaenafon, a agorodd ym 1921, diolch i roddion cyhoeddus.

Ychwanegodd Kate: "Mae stori Parc Blodau Blaenafon yn stori am bobl leol yn dod at ei gilydd i greu rhywbeth hardd ar gyfer eu tref.

"Mae'n teimlo'n anhygoel o addas ein bod ni'n dod â'r un ysbryd cymunedol yn ôl yn fyw drwy'r murlun hwn dros 100 mlynedd yn ddiweddarach. Dydyn ni ddim yn dathlu hanes Blaenafon yn unig - rydyn ni'n creu rhywbeth newydd gyda'r bobl sy'n byw yma."

Bydd y murlun, sy’n cael ei ariannu gan Kate a Chyngor Torfaen, yn rhan o lwybr murluniau newydd Y Golau yn ein Dwylo yn Nhorfaen a Blaenau Gwent, a fydd yn symbol o arweiniad, cynhesrwydd, gobaith a sut mae treftadaeth leol yn cael ei chario ymlaen a'i rhannu.

Ychwanegodd y Cynghorydd Joanne Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r murlun hwn yn gyfle gwych i ddathlu'r dreftadaeth gyfoethog sydd wedi dylanwadu ar siâp ein cymuned a chreu rhywbeth sy’n llawn ysbrydoliaeth ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

"Mae'n golygu anrhydeddu ein gorffennol, cryfhau balchder cymunedol yn y presennol, ac edrych ymlaen gydag optimistiaeth wrth i ni greu gwaddol parhaol y gall bawb deimlo'n rhan ohono."

Mae'r murlun yn cael ei baentio gan yr artist Danielle Farrington a gwahoddir aelodau o'r cyhoedd i alw heibio i wylio. Bydd sesiynau gweithdy hefyd yn cael eu cynnal gyda grwpiau lleol.

Mae yna gynlluniau ar y gweill hefyd ar gyfer ail furlun ar Westy'r Castell ym Mlaenafon, ac mae dau furlun newydd ym Marchnad Dan Do Pont-y-pŵl, a thrydydd murlun awyr agored wedi'i gynllunio ar gyfer Clarence Street, dan arweiniad ArtREGEN Pont-y-pŵl.

Mae'r llwybr murluniau Y Golau yn ein Dwylo yn rhan o ymgyrch newydd i wella canol trefi, ochr yn ochr ag ymgyrchoedd glanhau Trefi Gyda'i Gilydd.

Cynhelir digwyddiad cyntaf Trefi Gyda'i Gilydd yng nghanol tref Pont-y-pŵl ddydd Gwener 25 Medi a dydd Sadwrn 26 Medi.

Cynhelir diwrnod nesaf Trefi Gyda'i Gilydd ym Mlaenafon a gall trigolion bleidleisio dros yr ardaloedd yr hoffent eu gweld yn cael eu taclo. Ewch i Caru Blaenafon: Trefi Gyda'i Gilydd | Cymryd Rhan Torfaen.

Am ragor o wybodaeth am furlun Botanic Possessions, cysylltwch â Kate trwy kate@botanicpossessions.com neu ewch i botanicpossessions.com