Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gwaith adfer yn dechrau ar Fynydd Garnclochdy ar ôl tanau

Work being carried out on the Blorenge after wildfires

Bydd gwaith i adfer dyfrffosydd ar dir comin rhwng Abersychan and Blaenavon a ddinistriwyd gan danau yn dechrau’r wythnos hon.

Bydd Cymdeithas Cominwyr Blorenge - gyda chefnogaeth Cyngor Torfaen - yn cynnal rhaglen adfer uchelgeisiol ar Fynydd Garnclochdy yn dilyn y tanau dinistriol ym misoedd Gorffennaf ac Awst, a effeithiodd ar 220 hectar o dir.

Achosodd y tanau ddifrod sylweddol i lystyfiant ac ardaloedd o fawndir, gan leihau gallu naturiol y tir i gadw a rheoleiddio dŵr.

Mae mawndir iach yn gweithredu fel sbwng, gan storio glaw a'i ryddhau'n raddol, gan helpu i leihau erydiad, cefnogi bywyd gwyllt a lleihau'r risg o lifogydd ymhellach i lawr yr afon. Pan gaiff mewndir ei ddifrodi, gall dŵr lifo'n gyflymach ar draws y mynydd, gan gynyddu erydiad, y perygl o lifogydd, ac achosi i bridd mawn gwerthfawr gael ei golli.

Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, bydd y Cominwyr yn ymgymryd ag amrywiaeth o ymyriadau ymarferol gyda’r bwriad o adfer prosesau naturiol y mynydd.

Bydd y gwaith yn cynnwys adfer llwybrau draenio, blocio ffosydd a draeniau artiffisial, gosod rhwystrau sy'n gollwng o fewn sianeli, a gosod clogfeini a nodweddion cerrig naturiol yn strategol i arafu llif y dŵr.

Wrth i'r llystyfiant a'r mawndir adfer dros amser, bydd y dirwedd yn dod yn fwy gwydn yn wyneb tywydd eithafol yn y dyfodol gan barhau'r un pryd i ddarparu manteision i fioamrywiaeth, storio carbon a chymunedau ymhellach i lawr yr afon.

Dywedodd Sara Warman, Ysgrifennydd Cymdeithas Cominwyr Blorenge: “Rydym yn falch o fod yn dechrau ar y gwaith pwysig hwn.

Trwy gyflwyno’r mesurau hyn, gallwn helpu i adfer dyfrffosydd naturiol a gafodd eu heffeithio gan y gwaith i atal tanau a gwella rheolaeth dŵr ar y mynydd am flynyddoedd i ddod.

“Rydym yn ddiolchgar am y gefnogaeth sydd wedi gwneud y prosiect yma’n bosibl. Mae’n nodi cam pwysig yn ein hymdrechion ehangach i adfer a gwarchod y dirwedd at y dyfodol.”

Dywedodd y Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Mae'r Cominwyr wedi dangos ymroddiad gwirioneddol wrth ymateb i effaith tanau gwyllt yr haf hwn.

"Bydd eu gwaith i adfer mawndir sydd wedi'i ddifrodi a chyflwyno mesurau rheoli dŵr naturiol yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd, cefnogi bywyd gwyllt lleol a chryfhau gwytnwch y mynydd yn wyneb lifogydd a newid yn yr hinsawdd.

"Mae'r bartneriaeth hon yn enghraifft wych o genhadaeth Bargen Torfaen i rymuso cymunedau - gan ddod â gwybodaeth ac arbenigedd lleol ynghyd i helpu i atgyweirio un o dirweddau naturiol mwyaf gwerthfawr Torfaen a diogelu cymunedau a fyddai fel arall mewn perygl o lifogydd."

Bydd Cyngor Torfaen yn cyfrannu £50,000 tuag at waith ar Fynydd Garnclochdy i adfer ardaloedd a effeithiwyd gan fesurau brys i atal tanau a gafodd eu gwneud yn ystod gyfnod tanau ar y mynydd

Mae'r gwaith yn rhan o raglen ehangach o adfer sy'n cael ei chyflawni drwy’r Grŵp Adfer Tanau Gwyllt Blaenafon amlasiantaeth.