
Mae Fferm Gymunedol Greenmeadow yn torchi llewys i gyflwyno dathliad anhygoel i ddathlu blwyddyn ers ailagor. Fe fydd rhaglen lawn o hwyl i'r teulu, adloniant byw a Sioe boblogaidd y Fferm ddydd Sul 13 Medi.
Mae'n addo cynnig rhywbeth i bawb, gyda thua 30 o arddangoswyr yn arddangos 85 o gynhyrchion ar draws 30 dosbarth cystadlu.
Gall ymwelwyr edmygu popeth, o ffrwythau a llysiau cartref, arddangosfeydd blodau bendigedig a phobi i dynnu dŵr o’u dannedd, i ffotograffiaeth, crefftau a chreadigaethau’r plant.
Bydd y ffefryn canu gwlad Miss Rebecca Jones a'i band yn perfformio'n fyw, rhwng 12pm a 2pm, a bydd Circus for Positivity yn dod â chwerthin, sgiliau ac adloniant rhyngweithiol i'r Llaethdy trwy gydol y dydd.
Meddai Jac Griffiths, Rheolwr Fferm Gymunedol Greenmeadow: "Rydyn ni’n falch iawn o fod yn dathlu blwyddyn ers ailagor y Fferm i'r cyhoedd.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf rydyn ni wedi croesawu mwy na 100,000 o ymwelwyr a miloedd o blant ysgol ac wedi ailsefydlu Greenmeadow fel cyrchfan boblogaidd i deuluoedd, ysgolion a'r gymuned ehangach.
"Mae Sioe’r Fferm yn ffordd berffaith o ddathlu'r llwyddiant hwnnw. Mae'n wych gweld cymaint o bobl yn cymryd rhan ac yn arddangos eu doniau. Law yn llaw â cherddoriaeth fyw, adloniant, cynigion arbennig a digon i'w weld a'i wneud o amgylch y Fferm, rydyn ni’n edrych ymlaen at ddiwrnod gwych."
Gall ymwelwyr hefyd fanteisio ar amrywiaeth o gynigion arbennig ym mwyty Bwrdd y Ffermwr, gan gynnwys prydau plant am hanner pris a Phryd Arbennig y Dydd am £10.95.
Ydy’ch aelodaeth flynyddol ar fin dod i ben?
Peidiwch ag anghofio’i hadnewyddu a mwynhau 12 mis o hwyl YN OGYSTAL Â gostyngiadau ar brofiadau anifeiliaid a phartïon pen-blwydd, cynigion arbennig ar gyfer bwyd, diodydd a gweithgareddau penodol a mynediad i ddigwyddiadau i aelodau yn unig.
Rhagor o wybodaeth am Fferm Gymunedol Greenmeadow. (yn agor mewn tab newydd)