Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Gofal plant wedi'i ariannu i bob plentyn dwy flwydd oed

A group of young children and nursery staff sat on the carpet

Mae pob plentyn dwy flwydd oed yn Nhorfaen nawr yn gallu cael hyd at 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu bob wythnos.

Roedd disgwyl y byddai’n cymryd tan fis Ionawr i gyflwyno'r rhaglen gofal plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru, fodd bynnag mae wedi'i chyflwyno ddeufis yn gynnar.

Mae'n golygu bod pob plentyn nawr yn gymwys i gael gofal plant a ariennir o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy flwydd oed, ac mae cynnydd yn nifer y darparwyr gofal plant sydd wedi cyflwyno cais i gynnig lleoedd.

Mae gwybodaeth am y darparwyr sy'n cynnig hyd at 12.5 awr o ofal plant wedi'i ariannu ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.

Yn eu plith mae Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw, sydd wedi'i lleoli yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, a gafodd sgôr ardderchog yn ddiweddar gan Arolygiaeth Gofal Cymru.

Yn ôl adroddiad yr Arolygiaeth, mae plant sy'n mynychu'r ganolfan gofal plant yn "hyderus, yn hapus ac yn ymgysylltu" ac mae ganddynt "annibyniaeth, gwydnwch, a sgiliau datrys problemau" rhagorol.

Meddai Nicola Bartlett, rheolwr gofal plant: "Rydym yn hynod o falch o'r sgôr ragorol a gafodd Gofal Plant yr Enfys Gwynllyw gan Arolygiaeth Gofal Cymru. Mae'r cyflawniad hwn yn adlewyrchu ymrwymiad y tîm i ddarparu profiadau rhagorol ar gyfer plant a theuluoedd bob dydd.

"Mae hefyd yn gyflawniad gwych arall i leoliadau gofal plant awdurdod lleol Torfaen, yn dilyn y sgoriau rhagorol a gafodd Grŵp Chwarae Hwyaid Bach yn Garnteg. Mae'r canlyniadau hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel a sicrhau bod plant yn cael y dechrau gorau posibl mewn bywyd."

Meddai Emma Treadgold, Rheolwr Dechrau’n Deg: "Rydyn ni’n falch iawn ein bod ni wedi gallu cyflwyno gofal plant wedi'i ariannu i bob plentyn dwy flwydd oed yn gynharach na’r disgwyl. Mae hyn yn helpu i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i bob plentyn.

"Mae lleoliadau gofal plant yn cefnogi plant gyda'u datblygiad a'u trosglwyddiad i leoliad addysg feithrin yn dair blwydd oed, ac mae hyn yn eu helpu i baratoi ar gyfer y dosbarth derbyn yn yr ysgol."

Ydy’ch plentyn chi’n dechrau yn y meithrin neu'r ysgol ym mis Medi? Mae llawer o help a chyngor ar gael i'w paratoi hefyd, ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.