Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Paratoi at Eisteddfod yr Urdd

Three woman smiling holding mugs and wearing hats promoting the Urdd Eisteddfod Bro'r Wenynen Gwent

Mae ysgolion yn paratoi at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd y flwyddyn nesaf a fydd yn cael ei chynnal yng Ngwent.

Bydd Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen Gwent yn cynnwys dros 400 o gystadlaethau celf a diwylliannol ac mae disgwyl iddi ddenu dros 100,000 o geisiadau o bob rhan o Gymru.

Yr wythnos hon, fe fu 10 ysgol gyfrwng Saesneg sydd â diddordeb mewn cymryd rhan yn y digwyddiad yn cwrdd ag aelodau o Eisteddfod yr Urdd yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân, ac mae pedair arall yn awyddus i gymryd rhan ochr yn ochr ag ysgolion cyfrwng Cymraeg y Fwrdeistref.

Meddai’r dirprwy bennaeth, Catrin Passmore: "Rydyn ni’n gyffrous iawn fod Eisteddfod yr Urdd yn dod i'n rhanbarth ni - mae'n gyfle gwych i blant a phobl ifanc o bob ysgol i gael eu trwytho yn niwylliant Cymru a’i thraddodiadau, waeth a ydyn nhw'n siarad yr iaith ai peidio.

"Buasen ni wrth ein bodd i weld ein holl ysgolion yn cymryd rhan ac yn dod â llawer o fedalau nôl! Mae yna lawer o help ar gael i blant sydd eisiau perfformio yn Gymraeg, yn ogystal â dysgwyr Cymraeg, a chystadlaethau eraill lle nad oes angen Cymraeg llafar.

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at gynrychioli Torfaen a gallwn ni ddim aros i berfformio ochr yn ochr ag ysgolion lleol eraill!"

Eisteddfod yr Urdd yw gŵyl ieuenctid flynyddol fwyaf Cymru ac mae'n cynnwys cystadlaethau canu, llefaru, perfformio a dawns, yn ogystal â chategorïau amgen gan gynnwys coginio, gwallt a harddwch a chomedi.

Cynhelir Eisteddfod yr Urdd Bro'r Wenynen Gwent yn Nhŷ Tredegar, yng Nghasnewydd, rhwng 29 Mai a 3 Mehefin, 2027. Mae'r enw’n anrhydeddu Arglwyddes Llanofer, a oedd yn cael ei hadnabod fel Gwenynen Gwent, am iddi weithio mor galed i hyrwyddo'r Gymraeg a thraddodiadau Cymru.

Cynhelir y rhagbrofion rhwng mis Chwefror a mis Mawrth, a bydd Eisteddfod Pont-y-pŵl eleni, a drefnir gan Gyngor Cymuned Pont-y-pŵl, hefyd yn cynnwys categorïau'r Eisteddfod.

Bydd ysgolion yn cynnal digwyddiadau i godi arian dros y misoedd nesaf i helpu gyda'r gost o gynnal y digwyddiad. Un o’r ysgolion fydd yn cyfrannu at yr ymgyrch yw Ysgol Gymraeg Cwmbrân, a fydd yn cynnal Noson gydag Elvis, yn y Cwt Gwyn, yng Nghoed Eva ar 16 Hydref. Mae tocynnau'n costio £12.50 - cysylltwch â Catrin Passmore yn Ysgol Gymraeg Cwmbrân.

Mae aelodaeth yr Urdd yn costio £13.50 yr un am y flwyddyn. Mae tocynnau ar gyfer y prif ddigwyddiad dros Wythnos Sulgwyn yn mynd ar werth yn y gwanwyn. Am ragor o wybodaeth am y digwyddiad, ewch i wefan Eisteddfod yr Urdd (yn agor mewn tab newydd).