
Bydd pob plentyn dwy flwydd oed yn Nhorfaen yn gymwys i gael gofal plant wedi'i ariannu'n llawn o fis Ionawr 2027.
Bydd plant yn gallu cael mynediad at 12.5 awr o ofal plant am ddim bob wythnos, o'r tymor ar ôl eu pen-blwydd yn ddwy flwydd oed, yn rhan o’r fenter i ehangu rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru.
Mae gofyn i rieni plant dwy flwydd oed sydd ddim yn cael cyllid Dechrau'n Deg yn barod - neu y bydd eu plant yn troi'n ddwy erbyn diwedd eleni - wneud cais erbyn 9 Hydref os ydyn nhw eisiau dechrau ym mis Ionawr.
Meddai Emma Treadgold, Rheolwr Dechrau'n Deg: "Mae ychydig dros 70 y cant o deuluoedd cymwys yn Nhorfaen yn manteisio ar ofal plant wedi’i ariannu trwy Dechrau'n Deg yn barod.
"Wrth ehangu’r gwasanaeth bydd teuluoedd pob plentyn dwy flwydd oed yn gallu elwa ar 12.5 awr o ofal plant yr wythnos mewn meithrinfa breifat neu gyda gwarchodwyr plant.
"Mae lleoliadau gofal plant yn cefnogi plant gyda'u datblygiad ac i symud i le addysg feithrin yn dair oed, ac mae hynny’n eu helpu i baratoi at y Derbyn yn yr ysgol."
Bydd plant sydd â lle gofal plant a ariennir trwy Dechrau'n Deg yn barod yn parhau yn ôl yr arfer.
Ar gyfer ceisiadau newydd, dylech gynnwys manylion y darparwyr Dechrau'n Deg fyddai orau gennych. Mae’r manylion ar wefan Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen (yn agor mewn tab newydd).
A oes disgwyl i'ch plentyn ddechrau yn yr ysgol feithrin neu’r ysgol ym mis Medi? Mae yna lawer o gymorth a chyngor i'w paratoi nhw ar wefan Gwybodaeth i Deuluoedd Torfaen.