
Mae trigolion sydd ag uchelgais i ddechrau eu busnes manwerthu eu hunain yn cael eu hannog i fanteisio ar ddwy raglen am ddim a fydd yn cael eu lansio’r haf hwn, ac sydd wedi'u cynllunio i roi cymorth ymarferol, cyngor arbenigol a'r hyder i gymryd y cam nesaf i hunangyflogaeth.
Mae Cyswllt Busnes Torfaen yn cyflwyno Entrepreneuriaeth yn 50+ ac Yn Barod i Fasnachu: Torfaen, dwy raglen wedi'u teilwra gyda'r nod o helpu mentrwyr uchelgeisiol i ddatblygu'r sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i droi eu syniadau’n fusnesau ffyniannus.
Mae'r rhaglen Entrepreneuriaeth yn 50+ wedi'i chynllunio'n benodol ar gyfer pobl 50 oed a throsodd sy'n ystyried dechrau busnes. Bydd yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Byd Gwaith Cwmbrân rhwng dydd Mercher 12 Awst a dydd Mercher 2 Medi rhwng 10am-12pm, bydd cyfranogwyr yn derbyn cefnogaeth ac ysbrydoliaeth, yn dysgu sgiliau cynllunio busnes, cyllid a marchnata, ac yn elwa o gyfleoedd rhwydweithio ac arweiniad arbenigol.
Yn y cyfamser, mae Yn Barod i Fasnachu: Torfaen wedi'i anelu at unigolion sydd â syniad busnes, cynnyrch neu fenter greadigol sydd eisiau datblygu'r sgiliau sydd eu hangen i ddechrau gwerthu'n llwyddiannus.
Bydd y rhaglen bedair wythnos o hyd yn cael ei chynnal bob dydd Iau rhwng 6 Awst a 27 Awst yng Nghanolfan Cwmbrân a bydd yn cwmpasu adnabod cwsmeriaid, profi’r farchnad, prisio, elw, technegau gwerthu a hanfodion busnes.
Bydd cyfranogwyr hefyd yn derbyn mentora un-wrth-un personol a'r cyfle i arddangos a gwerthu eu cynnyrch mewn digwyddiad gwib manwerthu yng Nghanolfan Cwmbrân.
Dywedodd y Cynghorydd Jo Gauden, Aelod Gweithredol dros yr Economi, Sgiliau ac Adfywio: "Mae'r rhaglenni hyn yn gyfle gwych i unrhyw un sydd erioed wedi ystyried dechrau eu busnes eu hunain ond sydd ddim yn gwybod ble i ddechrau.
"P'un a ydych chi'n chwilio am her newydd yn hwyrach mewn bywyd neu'n barod i droi syniad busnes yn wirionedd, gall y gefnogaeth sydd ar gael drwy Gyswllt Busnes Torfaen eich helpu i fagu'r hyder, y sgiliau a'r cysylltiadau sydd eu hangen i lwyddo.
"Mae cefnogi entrepreneuriaid lleol yn hanfodol i gryfhau ein heconomi, creu cyfleoedd a helpu ein cymunedau i ffynnu."
Dywedodd Jeanette Savil, a lansiodd Welsh Walkies, busnes cerdded cŵn eleni, gyda chefnogaeth Tîm Cyswllt Busnes Torfaen: “Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i gael wedi bod yn wych. Yn gynharach eleni, es ar gwrs a drefnwyd gan Dîm Cyswllt Busnes Torfaen, oherwydd roedd gen i syniad am fusnes ond doeddwn i ddim yn siŵr sut i'w wireddu.
“Roedd y cwrs yn agoriad llygad a rhoddodd yr hyder i mi gymryd y cam nesaf, a dechrau fy musnes fy hun. Mae'r tîm wedi bod yn gefnogol trwy gydol y broses, ac nid oes unrhyw beth erioed wedi bod yn ormod o drafferth.
“Fe wnaethon nhw fy nhywys drwy'r hyfforddiant a'r cymwysterau sydd eu hangen arnaf, a roesant gymorth gwerthfawr gyda fy nghynlluniau busnes.
“Rwyf hefyd yn rhan o grŵp WhatsApp gyda phobl eraill sydd ar gam tebyg yn eu taith fusnes. Mae hyn wedi bod yn ffynhonnell wych o ran cyngor, anogaeth a chefnogaeth.
“Os ydych chi wedi bod yn meddwl am ddechrau busnes ond ddim yn gwybod ble i ddechrau, mae cyrsiau Cyswllt Busnes Torfaen yn lle gwych i ddechrau.”
Mae'r ddwy raglen am ddim i fynd iddynt ac maen nhw’n rhan o gynnig cymorth ehangach Cyswllt Busnes Torfaen i drigolion sydd am ystyried hunangyflogaeth, datblygu sgiliau newydd neu dyfu syniad busnes.
Mae'r rhaglen Entrepreneuriaeth yn 50+ yn cael ei chyflwyno mewn cydweithrediad â Busnes Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith, a bydd y cwrs Yn Barod i Fasnachu: Torfaen yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth â M Cwmbrân a Torfaen Food for Growth.
Mae'r rhaglenni'n cael eu hariannu gan Lywodraeth y DU a'u cyflwyno fel rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen at gefnogi twf economaidd a mentergarwch ar draws y fwrdeistref.