Gwasanaeth Free School Clothes yn helpu pocedi a’r blaned

Jon Evans, founder of freeschoolclothes.com, pictured with young boy in a school hall

Mae gwasanaeth ar-lein newydd am ddim, FreeSchoolClothes.com (yn agor mewn tab newydd), wedi’i lansio yn Nhorfaen a Blaenau Gwent i help teuluoedd i arbed arian gyda chost gwisg ysgol a hanfodion eraill, i leihau gwastraff a gwarchod yr amgylchedd.

Mae’r siop gyfnewid ddigidol yn caniatáu i deuluoedd restru dillad ysgol o ansawdd da yng nghymuned eu hysgol a gofyn am eitemau y mae eu hangen arnynt am ddim. Mae’r platfform wedi ei adeiladu o gwmpas cymunedau ysgol, gyda 15 ysgol yn Nhorfaen ac un ym Mlaenau Gwent eisoes wedi cofrestru.

Wrth siarad am y fenter nid-er-elw, dywedodd y sylfaenydd, Jon Evans, a fagwyd ym Mlaenafon ac a addysgwyd yn Ysgol Uwchradd Sant Alban ym Mhont-y-pŵl: "Mae FreeSchoolClothes.com yn helpu ein cymunedau i gefnogi ei gilydd yn uniongyrchol. Mae ailddosbarthu gwisg ysgol o ansawdd da’n gam syml, ymarferol sy’n cael effaith go iawn, gan helpu teuluoedd i arbed eu pocedi a’r blaned."

Dechreuodd Jon FreeSchoolClothes.com gydag un bocs o ddillad y tu allan i dŷ ei deulu yng Nghaerdydd. Heddiw, mae’n fenter gymunedol gyda gwirfoddolwyr yn helpu i ailddosbarthu dillad ysgol nad oes eu hangen mwyach a hanfodion eraill am ddim ledled y DU.

Dywedodd y Cyng. Richard Clark, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Addysg: "Mae’r platfform am ddim yma’n cefnogi’r Fargen yn Nhorfaen, sy’n canolbwyntio ar weithredu cymunedol a chydweithio i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau.

"Rydym yn annog ein hysgolion i gyd i ddefnyddio’r safle ac i rannu gwybodaeth gyda rhieni i helpu teuluoedd lleol i arbed arian. Mae plant ysgol yn tyfu’n gyflym ac mae arian yn brin ym mhob man, felly mae pob eitem sy’n cael ei gyfnewid yn helpu teuluoedd i arbed arian, lleihau gwastraff a gwarchod y blaned."

Cofrestrwch i gyfnewid heddiw trwy FreeSchoolClothes.com (yn agor mewn tab newydd) neu, cysylltwch â support@freeschoolclothes.com