Wythnos o hwyl am ddim i deuluoedd

Poster advertising free family fun week

Bydd wythnos o hwyl a chyngor am ddim i deuluoedd yn cael ei chynnal fis nesaf i ddathlu dau ddegawd o gymorth blynyddoedd cynnar.

Bydd picnic yr eirth, diwrnod traeth a pharti yn rhan o'r wythnos arbennig, yng Nghanolfan Integredig i Blant Cwmbrân, rhwng dydd Llun 3 Awst a dydd Gwener 7 Awst.

Daw hyn wrth i Ganolfan Integredig i Blant Cwmbrân ddathlu 20 mlynedd, ochr yn ochr ag 20 mlynedd ers cychwyn rhaglen Dechrau'n Deg Llywodraeth Cymru, sy'n darparu gofal plant am ddim i blant mewn ardaloedd difreintiedig.

Yn Nhorfaen, mae rhaglen Dechrau'n Deg hefyd wedi rhoi cyllid i gynnig cymorth gwell gan ymwelwyr iechyd, cymorth i rieni, a chymorth gyda datblygiad lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Dywedodd Joanne Lane, o Gwmbrân, y mae ei theulu wedi elwa o'r rhaglen: "Mae'r gefnogaeth rydw i wedi'i chael dros y blynyddoedd gan y tîm Dechrau'n Deg wedi bod yn hynod werthfawr.

"Arferai fy mab fynd i sesiynau Chatterbox pan oedd yn iau, i helpu i ddatblygu ei sgiliau lleferydd a chyfathrebu, ac fe wnaeth y cymorth gwarchod plant am ddim fy helpu i gwblhau fy nghymwysterau Lefel 2 a 3.

"Llongyfarchiadau i'r tîm sydd wedi gwneud cymaint o wahaniaeth cadarnhaol i blant a theuluoedd yn Nhorfaen yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf."

Dywedodd Emma Treadgold, Rheolwr Dechrau'n Deg: "Un o'r breintiau mwyaf wrth weithio gyda Dechrau'n Deg yw gweld teuluoedd yn tyfu dros y blynyddoedd.

"Rydyn ni'n cwrdd â nhw fel babanod, eu gwylio’n symud ymlaen i’r ysgol, a’u gweld eto, yn oedolion, gyda'u plant eu hunain, sy'n tynnu sylw at y gwahaniaeth y mae Dechrau'n Deg wedi'i wneud ar draws y cenedlaethau."

Mae'r wythnos o ddathliadau yn cyd-fynd ag Wythnos Genedlaethol Bwydo ar y Fron a Diwrnod Chwarae Cenedlaethol.

Bydd staff y blynyddoedd cynnar wrth law trwy gydol yr wythnos i gynnig cyngor ymarferol i deuluoedd sydd â phlant o oed cyn-ysgol, yn cynnwys y rhai sy'n paratoi ar gyfer y meithrin neu i ddechrau yn yr ysgol.

I gael fwy o fanylion am weithgareddau'r wythnos, ewch i wefan Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).

I gael gwybodaeth am gymorth blynyddoedd cynnar a pharatoi ar gyfer yr ysgol, ewch i www.torfaenfis.org.uk (yn agor mewn tab newydd)