Cyfraddau ailgylchu gwastraff bwyd yn dal i godi

kuwtj-eng_original

Mae cyfraddau ailgylchu ar draws y Fwrdeistref yn codi o hyd diolch i’r trigolion sydd wedi cymryd rhan yn ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu 12 y cant ym mis Chwefror 2026 ac ailgylchu arall wrth ymyl y palmant wedi codi 13 y cant, o gymharu â mis Chwefror 2025. Gwelwyd gostyngiad o 0.8 y cant yn y sbwriel yn y biniau â chlawr porffor yn ystod yr un cyfnod.

Ers mis Medi 2025, mae swyddogion addysg a gorfodi ailgylchu'r Cyngor wedi bod yn ymweld ag aelwydydd, yn cyflwyno llyfrynnau gwybodaeth Cystadlu â’ch Cymdogion ac yn cynnig cyngor i helpu trigolion i leihau’r gwastraff yn y biniau porffor.

Mae mwyafrif y trigolion y siaradwyd â nhw naill ai’n defnyddio'r gwasanaeth ailgylchu wrth ymyl y palmant yn llawn neu wedi cymryd camau cadarnhaol i ailgylchu mwy.

Fodd bynnag, cymerwyd camau gorfodi yn erbyn nifer fach o aelwydydd sydd wedi parhau i roi gormod o sbwriel ar gyfer y bin â chlawr porffor allan.

Ers mis Hydref 2025, mae swyddogion wedi cyhoeddi:

  • Dros 500 o lythyrau rhybudd Cam 1
  • 29 Hysbysiad Adran 26 (ail lythyr rhybudd)
  • 2 Hysbysiad Cosb Benodedig o £100

Gallwch ddarllen am Bolisi Addysg a Gorfodi Gwastraff (yn agor mewn tab newydd)y Cyngor ar ein gwefan.

Darganfyddwch beth allwch chi ei ailgylchu ar stepen eich drws (yn agor mewn tab newydd)

Am awgrymiadau ynghylch ailgylchu gwastraff bwyd, dilynwch #ByddWychAilgylcha ar y cyfryngau cymdeithasol.

Angen bocsys neu fagiau ailgylchu ychwanegol? Dewch o hyd i'ch hwb ailgylchu agosaf (yn agor mewn tab newydd)

Mae Canolfan Ailgylchu Gwastraff (yn agor mewn tab newydd) y Cartref ar agor saith niwrnod yr wythnos.

Atgoffwn unrhyw un sy’n ymweld â’r Ganolfan i ddod ag ID gyda nhw, ac i sicrhau eu bod wedi gwahanu eu deunydd i’w ailgylchu a'u sbwriel cyn cyrraedd.