
Cafodd plant sy'n mynychu gwersyll Bwyd a Hwyl yng Nghwmbrân gyfle i gwrdd ag ymwelydd arbennig yr wythnos hon.
Daeth Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru, Anna Brychan AS, i weld sesiwn yn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road er mwyn darganfod yr amrywiaeth o weithgareddau gwahanol a’r bwyd iach sydd ar gynnig.
Cyfarfu â phlant, staff a gwirfoddolwyr, arsylwi ar weithgareddau ar draws y safle, a dysgu am y ffordd y mae'r rhaglen yn cefnogi llesiant, datblygiad cymdeithasol a gweithgarwch corfforol plant, a’u mynediad at brydau maethlon yn ystod gwyliau'r ysgol.
Ymunodd y Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol y Cyngor dros Blant, Teuluoedd ac Addysg, a swyddogion eraill o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, â'r Gweinidog.
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark: "Unwaith eto rwy'n rhyfeddu ar ymrwymiad y gwirfoddolwyr a'r staff sy'n ymroi i gynllun mor wych bob haf. Mae Torfaen yn hynod o falch ohonyn nhw i gyd!"
Mae tua 150 o blant wedi cofrestru i fynychu'r gwersyll Bwyd a Hwyl yn Ysgol Gynradd Gymunedol Blenheim Road, sy'n un o 15 sydd wedi cael eu trefnu gan Wasanaeth Chwarae Torfaen eleni.
Mae staff a gwirfoddolwyr hefyd wedi cynnal tri gwersyll pontio Anelu’n Uwch, 10 sesiwn chwarae a seibiant, pedair sesiwn chwarae mynediad agored a gwersyll chwaraeon a llesiant yn Stadiwm Cwmbrân.
Mae cyfanswm o 3,648 o blant wedi cofrestru ar gyfer y sesiynau gwahanol, a thua 220 o wirfoddolwyr wedi helpu i redeg y sesiynau.