
Mae dau unigolyn ifanc wedi cwblhau rhaglen Arweinwyr Ifainc y Cyngor a nhw yw’r ddau gyntaf i wneud hynny.
Lansiwyd y fenter ddwy flynedd yn ôl i bobl ifanc, rhwng 18 a 25 oed, fel cam i mewn i rolau ym maes llywodraeth leol neu arwain yn dilyn Fforwm Ieuenctid Torfaen.
Mae Boyd Paynter, o Flaenafon, a Corban Edwards, o Gwmbrân, wedi gweithio gyda swyddogion y Cyngor gan gynnwys y tîm etholiadau, ac wedi cefnogi gweithgareddau'r fforwm. Maen nhw wedi cael profiad uniongyrchol o wneud penderfyniadau yn lleol trwy gysgodi aelodau etholedig a mynd i gyfarfodydd y Cyngor.
Meddai Boyd, sy’n 18 oed: "Mae bod yn Arweinydd Ifanc wedi agor cymaint o ddrysau i fi i ddatblygu fy sgiliau. Uchafbwynt i fi oedd mynd i gyfarfod Cabinet y Cyngor ddiwedd mis Chwefror. Roedd yn wych gweld sut mae'r Cyngor yn rhedeg.
"Mae'r Rhaglen Arweinwyr Ifainc yn gyfle gwych i bobl ifanc gymryd rhan mewn democratiaeth leol a chynrychiolaeth ieuenctid.
"Os ydych chi'n rhan o Fforwm Ieuenctid Torfaen ac yn 17 neu’n 18 oed, yna byddwn yn eich annog yn gryf i ymuno â'r Rhaglen Arweinwyr Ifainc a helpu i wneud gwahaniaeth i bobl ifanc sy'n byw yn Nhorfaen."
Meddai Phillip Wilson, Swyddog Cyfranogiad Plant a Phobl Ifanc y Cyngor: "Rydyn ni’n hynod falch o'r hyn y mae Boyd a Corban wedi'i gyflawni yn ystod blwyddyn gyntaf y Rhaglen Arweinwyr Ifainc.
"Maen nhw wedi cynrychioli pobl ifanc gydag angerdd ac ymroddiad ac wedi dangos y cyfraniad pwysig y gall pobl ifanc ei wneud i ddemocratiaeth leol.
"Mae llwyddiant y flwyddyn gyntaf wedi tynnu sylw at werth rhoi cyfleoedd ystyrlon i bobl ifanc i ymgysylltu â phenderfyniadau a llywodraeth leol."
Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn ganmol ein Harweinwyr Ifainc am eu proffesiynoldeb a'u haeddfedrwydd - maen nhw wir yn sêr sy’n mynd i fynd yn bell.
"Mae'r rhaglen hon yn ategu at Fforwm Ieuenctid y Cyngor, Cynghrair Ieuenctid Torfaen, Diwrnodau Meddiannu Pobl Ifanc a'r Bwrdd Cysgodi ac yn sicrhau bod barn pobl ifanc wrth galon ein penderfyniadau."
Bydd y rhaglen Arweinwyr Ifainc a'r Fforwm Ieuenctid nesaf yn dechrau fis Medi. Dylai disgyblion ysgol uwchradd sydd â diddordeb mewn ymuno â'r Fforwm Ieuenctid siarad ag arweinwyr cyfranogiad eu hysgolion.
Bydd gwybodaeth am Ddiwrnod Meddiannu nesaf y Cyngor yn cael ei rhannu yn yr hydref.
Am ragor o wybodaeth am gyfranogiad pobl ifanc yn Nhorfaen, cysylltwch â phillip.wilson@torfaen.gov.uk