:

Fe fydd £500,000 ychwanegol yn cael ei wario ar welliannau wedi'u targedu i’n ffyrdd yn ystod y cyfnod cyn y gaeaf.
Bydd y buddsoddiad cyfalaf ychwanegol yn cael ei wario ar raglen glytio ar raddfa fawr sy'n canolbwyntio ar rannau o ffyrdd a allai fod yn agored i ddifrod pellach yn ystod tywydd gwlyb ac oer.
Mae'r gwaith yn ychwanegol at Ffyrdd Gwell, sef rhaglen bum mlynedd y Cyngor gwerth £6.4m i osod arwynebau newydd, a lansiwyd y llynedd.
Cafodd tri deg wyth o ffyrdd arwyneb newydd rhwng 2025 a 2026, ac mae 23 o gynlluniau i osod arwynebau newydd wedi cael eu cwblhau hyd yn hyn yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Broad Street ym Mlaenafon, Crumlin Road ym Mhont-y-pŵl a Turberville Road yn Northfield oedd rhai o'r ffyrdd a gafodd arwyneb newydd eleni.
Mae Foundry Road yn Abersychan, Old Abergavenny Road yn y Dafarn Newydd a'r A4043 rhwng Pont-y-pŵl a Phont-y-pŵl Fawr yn rhai o'r ffyrdd fydd yn cael arwyneb newydd erbyn diwedd y flwyddyn.
Meddai’r Cynghorydd Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydyn ni’n gwybod bod cyflwr ein ffyrdd yn bwysig i drigolion, a dyna pam rydym ni’n dal i fuddsoddi mewn gwelliannau ar draws y Fwrdeistref.
"Mae ein timau hefyd yn mynd ati mewn ffordd ataliol y gaeaf hwn i leihau effaith y tywydd gwlyb ac oer ar y rhwydwaith."
Yn rhan o’r rhaglen Ffyrdd Gwell bydd tua 80 o ffyrdd yn cael arwyneb newydd rhwng 2025 a 2030.
Ariennir y rhaglen gyda £4 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf a £2.4 miliwn gan Fenter Benthyca Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru.
Mae'r buddsoddiad yn dilyn arolygon o gyflwr ein priffyrdd a ganfu, er bod y mwyafrif o ffyrdd dosbarthedig yn bodloni safonau cenedlaethol, fod angen gwella nifer sylweddol o ffyrdd llai.
Mae'r rhaglen Ffyrdd Gwell yn cael ei chyflawni ochr yn ochr ag amserlen cynnal a chadw priffyrdd blynyddol y Cyngor, sy'n cynnwys gwelliannau wedi'u targedu i lwybrau allweddol y mae angen ymyrraeth arnynt.
Bydd diweddariadau wythnosol ar y ffyrdd sydd ar fin cael arwyneb newydd yn cael eu rhannu trwy fwletin Newyddion Wythnosol y Cyngor a'r cyfryngau cymdeithasol – chwiliwch am #FfyrddGwellTorfaen.