Llwyddiant i ddisgyblion yn yr arholiadau

pupils holding there gcse results

Casglodd mwy na 1,000 o ddisgyblion Blwyddyn 11 eu canlyniadau arholiadau TGAU heddiw.

Yn eu plith roedd Seren Anthony o Ysgol Uwchradd Cwmbrân a enillodd 6 gradd A a 4 gradd B.

Yn Ysgol Croesyceiliog enillodd Amelia Rosser 11 gradd A*, ac enillodd George Tavener 11 gradd A* ac 1 radd A.

Roedd disgyblion Ysgol Abersychan, Sasha Phipps a Hannah Craddock, hefyd yn dathlu. Enillodd Sasha 3A, 2B, 2C a D, ac enillodd Hannah 4C, 2B ac D.

Yn Ysgol Gorllewin Mynwy, enillodd Jake Jones 4B a 4C.

Yn Ysgol Gymraeg Gwynllyw, enillodd Idris Lewis 2A* ac 8A ac enillodd Tasker White 3 gradd A.

Casglodd disgyblion o Ysgol Uwchradd Gatholig Alban Sant a'r Uned Cyfeirio Disgyblion eu canlyniadau arholiadau heddiw hefyd.

Meddai’r Cynghorydd Richard Clark, yr Aelod Gweithredol dros Blant, Teuluoedd ac Addysg: "Hoffwn anfon fy llongyfarchiadau cynhesaf at yr holl ddisgyblion ysgol uwchradd ar draws Torfaen sydd wedi cael eu canlyniadau heddiw.

"Dyma garreg filltir bwysig ar eich taith addysgol, ac rwy'n gobeithio eich bod chi'n teimlo'n falch dros ben o bopeth rydych chi wedi'i gyflawni trwy eich gwaith caled, eich ymroddiad a'ch dyfalbarhad.

"Diolch i'r staff anhygoel yn ein hysgolion a’n teuluoedd gwych sydd wedi sefyll wrth ochr ein pobl ifanc gydag anogaeth a gofal. Mae eich ymroddiad yn gwneud gwahaniaeth go iawn.

"Beth bynnag fo’ch cam nesaf - coleg, prentisiaeth, gwaith, neu rywbeth arall - rwy'n dymuno pob llwyddiant i chi."