
Mae Cyngor Torfaen wedi cael ei enwi'n Gyngor y Flwyddyn yng Ngwobrau'r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus.
Enillodd y Cyngor y brif wobr ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer 4 gwobr unigol, gan gynnwys y tîm ynni, a enillodd y Fenter Arloesi neu Reoli Galw Orau ar gyfer Prosiect Ystâd Ddiwydiannol Tŷ Blaen a Phanteg.
Cyrhaeddodd y tîm y rhestr fer hefyd ar gyfer y Fenter Gymunedol a Chymdogaeth Orau am ei waith yn cefnogi adeiladau cymunedol, busnesau lleol a thrigolion ar draws y Fwrdeistref i leihau'r defnydd o ynni, lleihau allyriadau carbon a lleihau costau.
Aeth sefydliadau sy'n rhan o'r prosiect ati i dynnu sylw at gymorth gwerthfawr y Cyngor sydd wedi eu helpu i sicrhau cyllid, nodi cyfleoedd, gwneud gwelliannau a dod i gyswllt â sefydliadau eraill, gan ddangos sut y gall gweithio mewn partneriaeth gyflawni buddion parhaol i gymunedau.
Cyrhaeddodd y Tîm Gweithrediadau Amgylcheddol restr fer Tîm Gwasanaeth Gorau'r Flwyddyn am y ffordd natur-gyfeillgar y mae’n rheoli parciau, mannau gwyrdd ac ymylon wrth ochr y ffordd, gyda chefnogaeth y Tîm Polisi Amgylcheddol.
Roedd y Tîm Polisi Amgylcheddol hefyd ar y rhestr fer ar gyfer y Fenter Gweithredu dros yr Hinsawdd neu Ddatgarboneiddio Orau am ei waith adfer mawndir.
Roedd pumed cais gan Arlwyo Ysgolion a Chwarae yn arddangos y ddarpariaeth Bwyd a Hwyl gynhwysol i blant yn ystod y gwyliau. Er na chyrhaeddodd y rhestr fer, roedd yn tynnu sylw at y gwaith rhagorol sy'n digwydd ar draws y sefydliad.
Cyhoeddwyd yr enillwyr yng Nghinio Gwobrau Elusennol blynyddol APSE, er budd Parkinson's UK, nos Iau 17 Medi 2026 yng Ngwesty'r Crowne Plaza, Lerpwl.
Meddai Gren Ham, Rheolwr Ynni a Lleihau Carbon: "Mae'r gwobrau'n adlewyrchu ymroddiad cydweithwyr ar draws y Cyngor sydd wedi cydweithio i gofleidio arloesi ac i ddarparu atebion ymarferol sy'n lleihau costau ynni ac yn gwneud gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithlon.
"Er ein bod ni’n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni yn ein gweithrediadau ni’n hunain, mae ein ffocws yn ymestyn y tu hwnt i'r Cyngor hefyd, at gefnogi trigolion, grwpiau cymunedol a busnesau lleol i leihau eu costau ynni a gwella effeithlonrwydd ynni."
Meddai Arweinydd y Cyngor, Anthony Hunt: "Mae'r wobr hon yn glod enfawr i'r staff sy'n gysylltiedig am eu gwaith caled a'u harbenigedd. Fel cyngor, fyddwn ni ddim yn sefyll yn yr unfan. O'r Fargen i'n gwaith fel Ffederasiwn, a thu hwnt, mae'n rhaid i ni barhau i geisio gwella gwasanaethau ac arloesi er mwyn sicrhau buddion i'r bobl rydyn ni'n eu gwasanaethu ar draws Torfaen."
Ychwanegodd Mo Baines, Prif Weithredwr APSE: "Mewn awdurdodau lleol ar draws y DU, mae timau gwasanaethau rheng flaen yn parhau i weithio'n ddiflino i gael effaith gadarnhaol ar eu cymunedau ac i wella bywydau trigolion.
"Mae APSE yn falch o dynnu sylw at y cynghorau sy'n darparu gwasanaethau rheng flaen rhagorol, a'u dathlu, trwy ein Gwobrau Gwasanaeth Blynyddol.
"O dai ac ailgylchu i hamdden a mannau gwyrdd, mae enillwyr eleni yn dangos arloesi, ymroddiad ac ymrwymiad wrth galon llywodraeth leol.
"Llongyfarchiadau enfawr i bawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol a’r enillwyr!"
Mae Gwobrau APSE yn dathlu rhagoriaeth mewn gwasanaethau llywodraeth leol ac yn cydnabod cynghorau a thimau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i gymunedau trwy arloesi, cynaliadwyedd a darparu gwasanaethau.