
Mae prosiect datgarboneiddio wedi helpu 31 o fusnesau i leihau allyriadau carbon ac arbed hyd at £63,120.95 y flwyddyn ar nwy a thrydan.
Eleni, mae grantiau o hyd at £20,000 ar gael i fusnesau i'w helpu i leihau allyriadau carbon ac arbed arian.
Mae angen gwneud ceisiadau erbyn dydd Llun 9 Tachwedd - cysylltwch â energy.management@torfaen.gov.uk.
Bydd ceisiadau’n cael eu hystyried ar sail y cyntaf i'r felin gaiff falu.
Mae cyllid ychwanegol hefyd ar gael ar gyfer cynlluniau lleihau ynni ar raddfa fwy.
Y llynedd, derbyniodd La Creme Patisserie, gwneuthurwr cacennau a phwdinau lleol, £17,500 tuag at gyllid i osod paneli solar, gan arbed amcangyfrif o 16.2 tunnell o garbon y flwyddyn - sy'n cyfateb i nifer yr allyriadau a gynhyrchir wrth yrru car petrol tua 50,000 milltir.
Dywedodd y Cyfarwyddwr Gweithrediadau Robert Hindle: "Fe wnaethom gais am y grant ynni gan fod ein cost trydan wedi cynyddu'n ddramatig ac roeddem yn gallu gweld y gallai paneli solar ddarparu ynni i ni yn ystod ein horiau cynhyrchu pan fydd ei angen fwyaf.
"Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mae La Creme wedi bod yn buddsoddi yn ein hadeiladau ac yn dod yn gyfeillgar i'r amgylchedd ar draws ein busnes yn gyfan.
"Gyda chefnogaeth flaenorol gan Dorfaen ar gyfer system monitro tymheredd o bell ar gyfer ein rhewgelloedd sy'n ein rhybuddio am amrywiadau neu fethiannau, rydym yn adeiladu gwytnwch a diogelwch ynni i ddiogelu ein busnes i'r dyfodol.
"Ers gwneud yr holl newidiadau hyn, mae'r arbedion rydyn ni wedi'u gwneud wedi caniatáu inni barhau i fuddsoddi mewn rhannau eraill o'r cwmni fel peiriant golchi llestri diwydiannol newydd a pheiriant torri gyda dŵr, a fydd yn helpu i leihau ein defnydd o ddŵr ac ynni fesul sleisen o gacen!"
Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd: "Mae costau ynni cynyddol yn parhau i roi pwysau ar fusnesau a sefydliadau, a dyna pam rydym yn annog grwpiau cymwys i fanteisio ar y cyfle cyllido hwn.
"Gall y grantiau hyn helpu i leihau biliau ynni, torri allyriadau carbon a gwneud adeiladau'n fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
"Mae llwyddiant y derbynwyr blaenorol yn dangos y gall hyd yn oed buddsoddiadau cymharol fach ddod ag arbedion hirdymor sylweddol."
I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun Grantiau Effeithlonrwydd Ynni, cysylltwch â energy.management@torfaen.gov.uk
Ariennir y Cynllun Grantiau Effeithlonrwydd Ynni gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.