Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Peidiwch â cholli cyfle - dywedwch eich dweud heddiw!

Torfaen residents' survey 2026 poster

Mae bron i 1,000 o bobl wedi dweud wrthym beth maen nhw’n ei feddwl am eu hardal leol, bywyd cymunedol, a gwasanaethau’r cyngor yn arolwg preswylwyr eleni.

Os nad ydych chi wedi ei gwblhau eto - mae amser o hyd!

Mae’r arolwg ar agor tan ddydd Sul, Hydref 25, ac mae’n cymryd llai na 10 munud i’w gwblhau.

Gallwch ei gwblhau ar-lein trwy fynd at wefan Cymerwch Ran Torfaen (yn agor mewn tab newydd) ac mae copïau papur ar gael yn y Ganolfan Ddinesig, ym Mhont-y-pŵl, a llyfrgelloedd Blaenafon, Cwmbrân a Phont-y-pŵl.

Mae arolwg eleni’n cynnwys cwestiynau am fywyd cymunedol, fel pa mor gysylltiedig i’w hardal mae pobl yn teimlo, p’un a ydyn nhw’n teimlo’n rhan o’u cymuned a beth allai eu hannog i gymryd mwy o ran mewn gweithgareddau lleol a gwirfoddoli.

Bydd yr adborth yn helpu i gefnogi nod Bargen Torfaen o greu cymunedau ffyniannus, cysylltiedig, lle gall pobl fyw’n dda a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi.

Dywedodd y Cynghorydd Anthony Hunt, Arweinydd Cyngor Torfaen: "Rydym yn gwybod bod yn y penderfyniadau yr ydym yn eu gwneud yn gryfach pan fyddan nhw’n cael eu goleuo gan y bobl sy’n byw yma.

"P’un a ydych chi am ddweud am yr hyn yr ydym yn ei wneud yn gywir, eisiau pwysleisio’r hyn sydd angen ei wella, neu rannu eich profiadau o fyw yn Nhorfaen, rydw i’n eich annog i gymryd rhan. Mae nifer o’n timau rheng flaen a sefydliadau partner lleol hefyd yn ein helpu i rannu’r ymgynghoriad yma gyda chymunedau.

"Gall deg munud o’ch amser helpu i siapio gwasanaethau’r dyfodol, dylanwadu ar flaenoriaethau lleol a chefnogi uchelgeisiau Bargen Torfaen. Mae pob ymateb yn cyfrif, felly gwnewch yn siŵr ein bod yn clywed eich llais."

Gall trigolion gwblhau’r arolwg o 14 Medi tan 25 Hydref trwy fynd at cymrydrhan.torfaen.gov.uk