
Mae busnesau, grwpiau gwirfoddol a thrigolion ym Mlaenafon yn cael eu gwahodd i helpu i lansio Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon ddydd Sadwrn Tachwedd 7.
Mae'r rhaglen Trefi Gyda'n Gilydd yn ffordd newydd o wella a chynnal canol trefi gyda thimau'r cyngor yn gweithio ochr yn ochr â chymunedau lleol i adfer balchder a dod â phobl yn ôl i'r stryd fawr.
Bydd tîm Strydlun y cyngor yn dechrau gyda glanhau sylweddol yng nghanol y dref, gyda’r diwrnod gweithredu cymunedol wedyn pan fydd staff a gwirfoddolwyr yn sgleinio Broad Street a Commercial Street a'r ardaloedd cyfagos.
Bydd Partneriaeth Garnsychan a Chapel Bethlehem, yn Broad Street, ymhlith y rhai sy'n cymryd rhan yn y digwyddiad ac yn nodi rhaglen barhaus o welliannau a gweithredu cymunedol.
Mae digwyddiad cyntaf Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon yn dilyn diwrnod gweithredu cyntaf Trefi Gyda'n Gilydd Pont-y-pŵl, ym mis Medi, pan ymunodd tua 30 o wirfoddolwyr â thimau'r cyngor i lanhau Crane Street, The Link, Commercial Street, a George Street.
Mae sawl gwelliant arall wedi digwydd yng nghanol tref Pont-y-pŵl ers hynny, dan arweiniad Tasglu Cymunedol Pont-y-pŵl, ac aelodau o Gynghrair Wirfoddol Pont-y-pŵl a busnesau lleol.
Dywedodd y Cyng. Joanne Gauden: "Cafwyd ymateb gwych i'r digwyddiad Trefi Gyda'n Gilydd cyntaf ym Mhont-y-pŵl ac mae wedi arwain at weithgareddau cymunedol eraill yng nghanol y dref, fel ailblannu ychwanegol a busnesau yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ei gilydd.
"Mae'r grym a'r gweithredu yma ar y cyd rhwng busnesau, cymunedau a'r cyngor yn helpu i ddod â phobl yn ôl i'n strydoedd mawr, yn denu buddsoddiad newydd ac yn adfer balchder yng nghanol ein trefi.
"Rwy'n siŵr y bydd y gymuned yn helpu i wneud diwrnod gweithredu Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon yn llwyddiant ac yn rhoi hwb i ymrwymiad o'r newydd i roi bywyd newydd i ganol y dref."
Bydd diwrnod gweithredu cymunedol Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon yn cael ei gynnal rhwng 9am ac 1pm ddydd Sadwrn Tachwedd 7. Gofynnir i wirfoddolwyr ac aelodau o'r cyhoedd gwrdd y tu allan i Gapel Bethlehem am 9am. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag amy.evans@torfaen.gov.uk
Bydd y gwaith glanhau yn canolbwyntio ar ardaloedd a ddewiswyd trwy arolwg Cymerwch Ran Torfaen.
Mae lansio Trefi Gyda'n Gilydd Blaenafon yn dilyn dadorchuddio murlun newydd yn siop flodau Botanic Possessions, yn Broad Street, fis diwethaf, fel rhan o lwybr murlun newydd Y Golau Yn Ein Dwylo.
Mae cynlluniau hefyd ar y gweill ar gyfer murlun ar ochr Gwesty'r Castell, hefyd yn Broad