Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Dathlu blwyddyn ers dechrau ymgyrch addysg a gorfodi ailgylchu

Overflowing purple-lidded bin with additional rubbish bags and a red recycling bag that has incorrect items in it

Mae’r gyfradd ailgylchu gwastraff bwyd yn parhau i gynyddu diolch i ymgyrch Cystadlu â’ch Cymdogion y Cyngor.

Mae ailgylchu gwastraff bwyd wedi cynyddu 13 y cant ac mae sbwriel mewn biniau â chlawr porffor wedi gostwng bedwar y cant ers i dîm ymgysylltu a gorfodi ailgylchu'r Cyngor ddechrau ym mis Medi 2025.

Ers mis Medi, cafwyd dros 700 o ymweliadau addysgol, gyda thrigolion yn cael cyngor a chefnogaeth i'w helpu i ailgylchu mwy.

Mae swyddogion hefyd wedi cyhoeddi dros 1000 o lythyron rhybudd, 102 Hysbysiad Adran 46 a 22 Hysbysiad Cosb Benodedig.

Mae'r tîm hefyd wedi llwyddo i ddod o hyd i dystiolaeth ar gyfer 11 o ddigwyddiadau tipio anghyfreithlon posibl, sydd wedi'i throsglwyddo i'r tîm diogelu'r cyhoedd.

Mae’r ymgyrch wedi'i hanelu at aelwydydd sy'n gorlenwi eu biniau â chlawr porffor neu'n gadael bagiau sbwriel ychwanegol allan - a'r rheiny sydd ddim yn ailgylchu rhai eitemau fel bwyd neu gardfwrdd yn rheolaidd - i gynyddu cyfraddau ailgylchu cyffredinol yn unol â tharged 70 y cant Llywodraeth Cymru.

Mae trigolion yn cael cynnig cymorth a chefnogaeth i ailgylchu mwy yn y lle cyntaf, ond os nad ydyn nhw’n gwneud newidiadau, gallant gael llythyr rhybudd ac, yn y pen draw, Hysbysiad Cosb Benodedig o £100.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Rydyn ni’n gwybod bod llawer o drigolion eisiau gwneud y peth iawn o ran ailgylchu. Ond, mae ymchwil yn dangos y gallai'r mwyafrif o eitemau sy'n cael eu taflu allan fel sbwriel fod wedi cael eu hailgylchu yn rhan o'n gwasanaeth ailgylchu wythnosol wrth ymyl y ffordd.

"Trwy siarad yn uniongyrchol â thrigolion, bydd ein swyddogion yn gallu cynnig cefnogaeth ac arweiniad i helpu trigolion i leihau eu sbwriel ac ailgylchu mwy.

"Mae'r cynnydd yn y gwastraff bwyd sy’n cael ei ailgylchu yn arbennig o galonogol oherwydd mae gwastraff bwyd yn rhan fawr o'r hyn sy'n cael ei daflu i ffwrdd yn y biniau â chlawr porffor.

"Trwy ailgylchu gwastraff bwyd ar wahân, gall trigolion wneud gwahaniaeth go iawn i berfformiad ailgylchu Torfaen."

Darganfyddwch sut i ailgylchu yn Nhorfaen