
Mae cwrs wedi cael ei ddatblygu i helpu pobl ifanc i baratoi at fyw'n annibynnol ac atal digartrefedd ymhlith pobl ifanc.
Mae rhaglen Allweddi Annibyniaeth wedi'i hanelu at bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ac mae'n cynnwys gwybodaeth am rentu preifat a chymdeithasol, perchen ar gartref, cyllidebu a rheoli arian, yn ogystal â sgiliau ymarferol fel sefydlu cyfrifon cyfleustodau a delio â biliau.
Mae'r cwrs chwech wythnos sy’n cael ei redeg gan dîm cymorth tai'r Cyngor, wedi'i achredu gan Agored ac yn cael ei gydnabod gan Fforwm Landlordiaid Torfaen.
Roedd Connor McHugh o Bont-y-pŵl, sy’n 18 oed, yn un o bump o bobl ifanc i gwblhau'r cwrs cyntaf yr wythnos hon. Meddai Connor: "Mae'r cwrs Allweddi Annibyniaeth wedi fy helpu i ddeall go iawn sut brofiad yw byw'n annibynnol.
"Rhoddodd fewnwelediad realistig i fi i reoli tenantiaeth, talu biliau, a'r cyfrifoldebau sy'n dod gyda chael eich cartref eich hun.
"Fe wnaeth hefyd chwalu llawer o’r mythau am amseroedd aros ar gyfer tai a'r hyn i'w ddisgwyl fel tenant, a nawr dw i’n teimlo'n llawer mwy parod a hyderus ynghylch y dyfodol."
Bob blwyddyn, mae tua 20 y cant o’r trigolion sy'n dod at yr awdurdod lleol am gymorth gyda digartrefedd rhwng 16 a 24 oed.
Meddai’r Cynghorydd David Daniels, Aelod Gweithredol dros Wasanaethau Oedolion a Thai: "Mae digartrefedd yn cael effaith ddinistriol ar unigolion, yn enwedig pobl ifanc, oherwydd mae’n effeithio ar eu gallu i astudio, gweithio a chynllunio ar gyfer y dyfodol.
"Er bod achosion digartrefedd yn aml yn gymhleth, bydd y cwrs hwn yn helpu i roi'r wybodaeth a'r deallusrwydd i bobl ifanc i atal problemau a allai arwain at ddigartrefedd.
"Mae hefyd yn ategu at waith arall y mae ein tîm cymorth tai yn ei wneud i atal digartrefedd a sicrhau bod gan bawb le diogel a saff i fyw."
Datblygwyd y cwrs Allweddi Annibyniaeth gyda Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen, Gwasanaeth Cymorth i Bobl Ifanc Torfaen a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.
Gwahoddir unrhyw un sydd â diddordeb yn y cwrs i ddod i’r lansiad swyddogol yng Nghanolfan Pobl Ifanc Cwmbrân, rhwng 3pm a 6pm ddydd Mercher 25 Tachwedd.
Bydd cyfle i gofrestru ar gyfer y cwrs, gwybodaeth am gymorth tai a lluniaeth. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â K2I@torfaen.gov.uk