Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Cyfleoedd newydd ar droed yn Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cwmbrân

Members of Torfaen Libraries, Growing Space and local councillor photographed in front of Coffi Cart

Gan ddechrau heddiw, bydd ymwelwyr â Hwb Cymunedol a Llyfrgell Cwmbrân yn gallu prynu diodydd i'w mwynhau gyda'u llyfrau ac wrth fynychu eu clybiau.

Mae'r Coffi Cart yn cael ei redeg mewn partneriaeth â'r elusen iechyd meddwl Growing Space, sy'n gweithio gyda phobl â chyflyrau iechyd meddwl ac anableddau dysgu.

Bydd y fenter yn gweithredu fel rhaglen hyfforddi gwirfoddolwyr, ac yn cefnogi pobl oedran gweithio â chyflyrau iechyd ac anableddau sy'n cyfyngu ar eu gallu i weithio, er mwyn datblygu’r sgiliau a’r profiad i ddod o hyd i waith addas.

Bydd unigolion yn cael profiad ymarferol mewn meysydd sy’n cynnwys sgiliau barista, gwasanaethau cwsmeriaid, hylendid bwyd, iechyd a diogelwch a manwerthu.

Meddai Bill Upham, Prif Swyddog Gweithredol Growing Space, "Bydd y fenter gyffrous ac arloesol hon yn gwella llesiant pawb sy'n ymgysylltu â hi ac yn darparu atebion yn y gymuned a fydd yn lleddfu'r galw am wasanaethau statudol"

Bydd Coffi Cart yn gweithredu yn ystod oriau agor arferol y Llyfrgell, ac mae ganddo ddetholiad o de, coffi a diodydd oer.

Meddai’r Cynghorydd Peter Jones, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Lywodraethu Corfforaethol a Pherfformiad:

"Mae'r Coffi Cart yn ymateb yn uniongyrchol i'r hyn y dywedodd defnyddwyr y Llyfrgell wrthym eu bod eu heisiau, ac mae hefyd yn creu cyfleoedd i bobl ddatblygu sgiliau, profiad a hyder gwerthfawr.

"Mae'n enghraifft wych o'r dull gweithredu sydd gennym ni ar gyfer Hwb Cymunedol a Llyfrgelloedd Torfaen, ac yn dod â chyfleoedd a chefnogaeth at ei gilydd mewn lleoliad cymunedol croesawgar."

Fe fu’r prosiect yn bosibl diolch i gyllid o £51,000 gan Brosiect Blaengaredd Anweithgarwch Economaidd Llywodraeth Cymru.

Mae Llyfrgell Cwmbrân yn cynnal tua 34 o grwpiau rheolaidd yn barod, ochr yn ochr â gwasanaethau cyngor a gwybodaeth, yn rhan o ymdrechion y Cyngor i ddod â mwy o wasanaethau a gweithgareddau at ei gilydd o dan yr un to.

Mae'r fenter Coffi Cart yn seiliedig ar fodel tebyg yn Ysbyty Sant Cadog yng Nghasnewydd, ac mae Able hefyd yn cefnogi llwybrau atgyfeirio at y rhaglen.

I gael rhagor o wybodaeth am oriau agor a’r hyn sydd ymlaen yn y llyfrgell, ewch i wefannau Cyngor Torfaen (yn agor mewn tab newydd) neu Connect Torfaen. (yn agor mewn tab newydd)