
Bydd Lynne Neagle, Ysgrifennydd Cabinet Addysg Llywodraeth Cymru, yn agor yr estyniad yn swyddogol yn Ysgol Crownbridge ddydd Gwener 21 Mawrth
Mae'r seremoni yn nodi cwblhau'r buddsoddiad o £12.35 miliwn mewn estyniad 50 lle i Ysgol Crownbridge.
Adeiladwyd yr estyniad ar safle'r ysgol bresennol yng Nghroesyceiliog a bydd yn helpu i ateb y galw cynyddol am addysg arbennig yn Nhorfaen.
Mae'r estyniad wedi'i ariannu 75% gan raglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru.
Meddai Bethan Moore, Pennaeth Ysgol Crownbridge: "Mae estyniad newydd yr ysgol, a elwir yn 'Mynydd', yn cynnwys chwe ystafell ddosbarth newydd, cegin y gall y disgyblion ei defnyddio, ystafell i gynnal cyrsiau, swyddfeydd, neuadd ac ystafell fownsio - sy'n drampolîn maint llawn ar lawr fydd yn galluogi disgyblion i dderbyn therapïau.
“Mae yna hefyd ardal gemau aml-ddefnydd newydd gydag ardaloedd chwarae a dysgu awyr agored. Mae'r offer awyr agored yn cynnwys rowndabowt sy’n addas i gadeiriau olwyn, rheilen gydbwyso a thrampolîn sydd wedi ei suddo.
“O ganlyniad, mae'r ysgol wedi gallu derbyn disgyblion newydd ac rydym yn gyffrous iawn i ddatblygu'r estyniad ymhellach yn ystod y flwyddyn. Mae wir yn gyfleuster o'r radd flaenaf i addysgu a meithrin ein plant ag anawsterau dysgu difrifol a dwys.”
Dywedodd Arweinydd Cyngor Torfaen, y Cynghorydd Anthony Hunt: "Diolch i ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i Dorfaen ac uchelgais y cyngor i wella ein hysgolion, rydym wedi cwblhau dros £90m o fuddsoddiadau yn ein hysgolion yn ystod band A. Mae hyn yn cynnwys adnewyddu ac adeiladu nifer o ysgolion newydd a Pharth Dysgu Torfaen drwy gefnogaeth y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy .
"Yr estyniad yn Ysgol Crownbridge yw’r cynllun cyntaf a gwblhawyd yn ein buddsoddiad Band B a fydd yn gwella ac yn ehangu amgylcheddau dysgu Torfaen ymhellach i'n pobl ifanc. Yn Nhorfaen rydym wedi gweld twf sydyn yn y galw am leoedd mewn ysgolion arbennig a bydd yr estyniad yn galluogi 50 o blant eraill i gael eu haddysgu yn y cyfleusterau gwych yn Crownbridge.
“Ar gyfer y flwyddyn nesaf rydym wedi darparu cynnydd ychwanegol o £6.7 miliwn i'r gyllideb ysgolion sy'n gynnydd o 8.6% ac yn dangos ein bod yn blaenoriaethu addysg yn y fwrdeistref yn barhaus."
Bydd y seremoni agor yn dechrau am 12.15pm ddydd Gwener 21 Mawrth yn Ysgol Crownbridge, Turnpike Road, Croesyceiliog, Cwmbrân, NP44 2BJ.