Ymgyrch Create a Buzz yn eich cymuned

Create a buzz poster showing wildlife and flowers

Mae amrywiaeth planhigion, pryfed ac anifeiliaid wedi gwella bron 100 y cant mewn rhai mannau, diolch i newid yn rheolaeth glaswelltiroedd.

Dros y chwe blynedd diwethaf, mae’r cyngor wedi peidio â thorri gwair dros yr haf mewn rhai parciau, mannau cyhoeddus ac ymylon ffyrdd i ganiatáu i blanhigion a phryfed i barhau i beillio a rhoi coridorau cynefinoedd gwerthfawr.

Mae ymchwil wedi dangos fod bioamrywiaeth wedi gwella 92 y cant mewn ardaloedd sydd wedi cael eu monitro ers 2020, gyda chynnydd mewn blodau gwyllt, gwenyn a gloÿnnod byw.

Gofynnir i drigolion nawr i nodi – ac efallai mabwysiadu – hafanau newydd i fywyd gwyllt fel rhan o brosiect newydd Create a Buzz (yn agor mewn tab newydd) .

Mae Create a Buzz yn gwahodd trigolion lleol enwebu safleoedd – rhai newydd neu un sydd eisoes wedi ei adel i dyfu – ar gyfer mwy o blannu blodau gwyllt neu newid mewn trefniadau torri gwair, i annog blodau gwyllt ledled Torfaen.

Dywedodd y Cyng. Mandy Owen, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd: "Rydym yn falch o’r gwelliant sylweddol mewn bioamrywiaeth.

Mae’n dangos fod y newidiadau yr ydym wedi eu gwneud yn dod â buddion go iawn i fywyd gwyllt, gan helpu mwy o flodau, gwenyn a gloÿnnod byw i ffynnu. "Ond dim ond y dechrau yw hyn.

Trwy brosiect Create a Buzz, rydym yn gwahodd trigolion i weithio gyda ni i gael lleoliadau newydd ar gyfer plannu blodau gwyllt ac, os ydyn nhw’n dymuno, helpu i ofalu amdanyn nhw trwy ein cynllun Mabwysiadu Clwt Blodau Gwyllt."

"Dyma enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith, gyda’r cyngor a chymunedau’n gweithio gyda’i gilydd i greu cymdogaethau gwyrddach, iachach a mwy deniadol.

"P’un ai ydych chi’n enwebu safle, yn gwirfoddoli i helpu i ofalu am glwt, neu’n syml yn cefnogi’r prosiect, gall pawb chwarae rhan wrth wneud i Dorfaen flodeuo."

Mae tua dau gant o safleoedd – dros gyfanswm o 90 hectar – nawr yn rhan o raglen rheolaeth glaswelltiroedd cynaliadwy ac amgylcheddol gyfeillgar.

Gallwch enwebu safle neu fynegi diddordeb mewn mabwysiadu clwt blodau gwyllt trwy glicio isod.

Gallwch hefyd gefnogi eich amgylchedd lleol trwy ddod yn Stiward Natur neu helpu i daclo’r Jac y Neidiwr goresgynnol. Am fwy o wybodaeth, ewch i wefan Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).