Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Allech chi faethu ochr yn ochr â'ch gyrfa?

Darren and Emma, two foster carers from Torfaen, out on a walk with their dog

Mae pobl sy'n gweithio yn cael eu hannog i ystyried maethu yn rhan o ymgyrch newydd Maethu Cymru sy'n herio mythau cyffredin am ddod yn ofalwr maeth.

Ymhlith y rheiny sy'n cefnogi'r ymgyrch mae Darren ac Emma, o Gwmbrân, sydd wedi gallu sicrhau cydbwysedd rhwng maethu â'u gyrfaoedd ers 3 blynedd.

Mae bron i 40 y cant o ofalwyr maeth ledled Cymru yn cyfuno maethu â gwaith. Mae llawer yn dweud bod y sgiliau maen nhw'n eu defnyddio bob dydd yn eu swyddi yn eu helpu i gefnogi plant a phobl ifanc gartref.

Meddai Darren, sy'n Uwch-reolwr Cyfrif i gwmni Datacolor: "Mae'r sgiliau rydych chi'n eu defnyddio yn y gwaith, fel datrys problemau, cynllunio a jyglo logisteg, yn trosi’r naturiol i faes maethu.

"Mae maethu wedi dod yn rhan o'n bywyd teuluol. Gyda'r gefnogaeth gywir, rydyn ni wedi gallu sicrhau cydbwysedd rhwng maethu a'n gyrfaoedd."

Mae'r ymgyrch yn herio'r camargraff fod yn rhaid i bobl roi'r gorau i’w gwaith er mwyn maethu. Mewn gwirionedd, mae llawer o ofalwyr maeth awdurdodau lleol yn gweithio ym maes addysg, gofal iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau brys a lletygarwch.

Mae Maethu Cymru Torfaen yn gweithio'n agos gyda gofalwyr i adnabod cyfleoedd i faethu sy'n ffitio o gwmpas eu swyddi, eu bywyd teuluol a’u hymrwymiadau eraill.

Ychwanegodd Emma, rheolwr y Blynyddoedd Cynnar gyda Chyngor Torfaen: "Dydyn ni ddim erioed wedi teimlo bod yn rhaid i ni ddewis rhwng ein gyrfaoedd a maethu.

"Rydyn ni wedi cael cefnogaeth i wneud i'r ddau beth weithio. Mae cael cyflogwr sy’n deall a thîm maethu cefnogol yn gwneud gwahaniaeth enfawr."

Mae'r ymgyrch hefyd yn annog busnesau a sefydliadau i ddod yn Gyflogwyr sy’n Croesawu Maethu.

Mae'r cynllun cenedlaethol yn cefnogi gweithwyr sy'n maethu neu sy'n ystyried maethu trwy helpu i greu diwylliant yn y gweithle sy'n deall y rhan y mae gofalwyr maeth yn ei chwarae.

Meddai Jason O'Brien, Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Plant a Theuluoedd Cyngor Torfaen:

"Un o'r mythau mwyaf am faethu yw bod yn rhaid i bobl ddewis rhwng eu gyrfa a dod yn ofalwr maeth. Ond mewn gwirionedd mae llawer o bobl yn llwyddo i gyfuno maethu â swydd, ac rydyn ni’n gweithio'n agos gyda phob teulu maeth er mwyn dod i ddeall eu hamgylchiadau a'u hargaeledd.

"Rydyn ni’n cydnabod y sgiliau gwerthfawr y mae pobl yn eu datblygu trwy gydol eu gyrfaoedd a sut y gall y profiadau hynny fod o fudd i blant a phobl ifanc.

"Efallai bod rhywun yn gweithio'n llawn-amser, yn rhan-amser neu'n hyblyg. Beth bynnag fo’u sefyllfa, efallai y bydd cyfle maethu sy'n siwtio’u ffordd o fyw nhw. Ein rôl ni yw helpu gofalwyr i ddod o hyd i'r cyfle sy’n iawn iddyn nhw, a rhoi’r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i lwyddo."

I gael rhagor o wybodaeth am faethu gyda Maethu Cymru Torfaen neu Rwydwaith Cyflogwyr sy’n Croesawu Maethu, ewch i: https://torfaen.maethucymru.llyw.cymru/ (yn agor mewn tab newydd)