Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 06/12/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Prosiect gardd bywyd gwyllt cymunedol yn blodeuo

Volunteers at Pontnewydd Park

Mae gwirfoddolwyr lleol yn trawsnewid ardal o barcdir a esgeuluswyd yn ardd fywyd gwyllt gymunedol ac yn fan dysgu awyr agored.

Mae grŵp Cyfeillion Parc Pontnewydd yn troi hen ardd rosynnau yn ardd fywyd gwyllt gymunedol hygyrch gyda llwybrau gwell, gwelyau blodau gwyllt, potiau planhigion siâp cwch camlas, wal gerrig i flodau sy’n denu pryfed sy’n peillio a mannau chwarae a dysgu yn y coetir.

Y gweddnewidiad hwn yw'r bennod ddiweddaraf yng ngwaith parhaus y grŵp i adfywio hen barc llesiant y glowyr yng Nghwmbrân - gyda chefnogaeth Bargen Torfaen, sef menter newydd sy'n anelu at rymuso cymunedau i fynd i'r afael â materion lleol.

Yn rhan o'r prosiect, mae'r grŵp Cyfeillion wedi ymgynghori â thrigolion ac ysgolion lleol ac wedi darparu'r gweithlu, ac mae’r Cyngor wedi helpu'r grŵp i ddatblygu'r cynlluniau a sicrhau cyllid.

Bydd tîm Planed Iach, Pobl Iach y Cyngor a gwirfoddolwyr Nature Connectors yn parhau i gefnogi'r prosiect trwy weithgareddau a digwyddiadau i ymgysylltu â'r gymuned.

Meddai’r Cynghorydd Sue Morgan, Cynghorydd Pontnewydd ac Aelod Gweithredol dros Gynaliadwyedd a Gwastraff: "Mae Cyfeillion Parc Pontnewydd yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fydd cymunedau'n dod at ei gilydd gyda gweledigaeth gyffredin.

"Trwy frwdfrydedd ac ymroddiad rydyn ni’n helpu i greu parc y gall trigolion o bob oed ei fwynhau ac sy'n ased cymunedol gwerthfawr. Ac rydyn ni’n cael llawer o hwyl wrth wneud hynny.

"Trwy Fargen Torfaen, mae'r Cyngor yn cefnogi prosiectau sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn i bobl leol, ac mae hon yn enghraifft wych o weithredu cymunedol sy'n cyflawni manteision parhaol."

Meddai Chris Morgan, Cadeirydd Cyfeillion Parc Pontnewydd: "Mae'n brosiect mor gyffrous ac rydyn ni wedi cael ymgysylltiad mawr yn barod wrth lunio'r cynlluniau a dechrau trawsnewid yr ardal hon o'r parc.

"Bydd yr ardd fywyd gwyllt gymunedol yn lle tawel, llawn blodau i bawb ei fwynhau. Rydyn ni wedi plannu coeden fedw arian i goffau yn barod ac fe’i noddwyd gan Gyngor Cymuned Cwmbrân, a byddwn yn gosod mainc gron o'i chwmpas yn y Gwanwyn.

"Bydd yr ardal sydd agosaf at y gamlas yn dod yn ysgol y goedwig gyda chuddfan adar, a gallai ysgolion lleol, meithrinfeydd a grwpiau anabledd ofalu am y gwelyau uchel. Allwn ni ddim aros i bobl leol weld y cynlluniau a chymryd rhan yn y gwaith o siapio’r ardd a’i chreu."

Mae'r prosiect wedi cael bron i £15,000 gan raglen Camau Cynaliadwy Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac fe'i datblygwyd gyda chefnogaeth ymgynghorwyr Egin a Chyngor Torfaen.

Mae nawdd diweddar gan Morgan Sindall hefyd wedi helpu'r grŵp i ailagor toiledau yn y parc i'w defnyddio gan grwpiau cymunedol ac ysgolion.

Gall trigolion sydd â diddordeb mewn cefnogi grŵp Cyfeillion Parc Pontnewydd gysylltu â Chris Morgan, 07812176852, Chrismorgan59@gmail.com

Gall unrhyw un sydd â diddordeb mewn trawsnewid darn o dir gerllaw iddynt gael cyngor gan Kris Thobroe, Swyddog Cyflawni Lleoedd Lleol ar gyfer Natur, ar 07903 408508.