
I nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd ddydd Iau 10 Medi, mae cerdd gan drigolion Torfaen wedi cael ei fframio ac mae nawr i’w gweld yn Llyfrgell Cwmbrân.
Mae pymtheg o drigolion Torfaen wedi dod at ei gilydd i greu cerdd bwerus sy'n cynnig gobaith a sicrwydd i bobl sy'n meddwl am hunanladdiad.
Cyflwynwyd y prosiect gan Sefydliad Jacob Abraham a fu’n gweithio gyda'r bardd lleol Patrick Jones a grŵp ysgrifennu yn Eglwys TLC yng Nghwmbrân, i greu cerdd o'r enw 'The Coat', yn ogystal â ffilm fer (yn agor mewn tab newydd).
Mae'n archwilio themâu gobaith, gwytnwch a hunan-ofal, ac yn annog pobl i dynnu ar eu nerth mewnol ar adegau anodd.
Mae rhai o aelodau'r grŵp wedi cael trafferthion gyda'u hiechyd meddwl eu hunain ac roeddent yn gallu ysgrifennu am eu profiadau o gyfnodau mewn bywyd lle roeddent yn teimlo nad oedd unrhyw obaith ganddynt.
Ymhlith y rheiny a fu’n rhan o’r prosiect roedd Julie Cross, a helpodd i sefydlu'r grŵp ym mis Mai 2025. Meddai Julie: "Roedd yn fraint cael gweithio gyda Sefydliad Jacob Abraham. Roedd y gweithdai yn ein hannog i fyfyrio ar ein profiadau ni’n hunain ac yn gymorth i lunio'r gerdd.
"Rwy'n gobeithio ei fod yn cynnig cysur i unrhyw un sy'n mynd trwy gyfnod anodd, gan eu hannog i ofyn am gefnogaeth a'u hatgoffa eu bod nhw’n gryfach nag a feddylient."
Roedd y prosiect yn bosibl diolch i grant o £12,550 gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, a weinyddwyd gan Gyngor Torfaen, sydd hefyd wedi ariannu hyfforddiant am atal hunanladdiad.
Yn rhan o'r fenter ehangach, cyflwynodd y sefydliad hyfforddiant ASIST (Applied Suicide Intervention Skills Training) i 33 aelod o'r cyhoedd a ymgeisiodd.
Roedd yr hyfforddiant, yn Eglwys TLC, Clwb Rygbi Cwmbrân ac Eglwys Victory Blaenafon, yn gymorth iddynt i fagu’r sgiliau a'r hyder i adnabod arwyddion y gallai rhywun fod mewn perygl o hunanladdiad, ac i ymateb i’r arwyddion hynny.
Mae llawer ohonyn nhw nawr yn defnyddio'r sgiliau yn eu rolau proffesiynol, lle maen nhw'n delio â phobl sy’n agored i niwed.
Meddai Steph Mapstone, arweinydd hyfforddi gyda Sefydliad Jacob Abrahams: "Gyda'r gerdd penderfynon ni weithio gyda grŵp ysgrifennu a oedd wedi cael ei sefydlu’n barod, i gyfleu'r neges bwysig am gyswllt cymunedol, gwytnwch, ac, yn anad dim, gobaith.
"Yn erbyn cefndir o gynnydd yn y cyfraddau hunanladdiad yng Nghymru, roedd yn wych fod y prosiect hwn hefyd wedi rhoi cyfle i ni wella sgiliau unigolion a oedd eisiau magu hyder wrth ymyrryd mewn argyfwng."
Cofnododd ffigurau diweddaraf y Swyddfa Ystadegau Gwladol 436 o hunanladdiadau yn 2024, sy’n gynnydd o’r 386 yn y flwyddyn flaenorol.
Meddai’r Cynghorydd Fiona Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau: "Mae'r prosiect hwn yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith. Mae’n dod â thrigolion, elusennau a gweithwyr proffesiynol at ei gilydd i gryfhau cysylltiadau cymunedol.
"Mae'r gerdd yn cyflwyno neges bwerus, ac mae’r hyfforddiant ASIST wedi arfogi pobl â'r sgiliau a'r hyder i wybod pan fydd rhywun yn cael trafferth ac i ymateb yn briodol yn eu bywydau proffesiynol a phersonol."
Gall unrhyw un sy'n cael trafferth gyda'u hiechyd meddwl neu'n meddwl am hunanladdiad, geisio cymorth trwy Sefydliad Jacob Abraham (yn agor mewn tab newydd), Melo Cymru (yn agor mewn tab newydd)a Suicide Prevention UK. (yn agor mewn tab newydd)
I gael gwybodaeth am grwpiau profedigaeth trwy hunanladdiad yn Nhorfaen, cysylltwch â bryn@jacobsfoundation.org.uk neu am gymorth cyffredinol yn y gymuned gyda phrofedigaeth, ewch i Cysylltu Torfaen (yn agor mewn tab newydd).
Ffurfiwyd Sefydliad Jacob Abraham er cof am Jacob Abraham, a gymerodd ei fywyd ei hun ym mis Hydref 2015.
Mae'r elusen yn gweithio i godi ymwybyddiaeth am hunanladdiad, cefnogi'r rheiny y mae hunanladdiad yn effeithio arnynt, hyrwyddo iechyd meddwl cadarnhaol a darparu hyfforddiant a’r adnoddau i helpu i atal hunanladdiad mewn cymunedau.