Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Rhodd i’r Ystafell Gitiau Gymunedol

Councillor Fiona Cross pictured with members of Dragons RFC holding donated sports kit.

Gall trigolion ar draws Torfaen gael mynediad at fwy o ddillad chwaraeon am ddim nawr, diolch i rodd hael gan Glwb Rygbi'r Dreigiau i Ystafell Gitiau Gymunedol Torfaen.

Mae'r Ystafell Gitiau Gymunedol, sydd mewn sawl lleoliad ar draws Torfaen, yn agored i unrhyw un sydd eisiau dillad neu offer chwaraeon, gan gynnig mynediad am ddim i gitiau pêl-droed a rygbi, esgidiau chwaraeon, leotards gymnasteg a mwy.

Lansiwyd y fenter ym mis Awst 2024, gan ein helpu i chwalu rhwystrau ariannol sy’n atal pobl rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, a chefnogi teuluoedd sy'n wynebu pwysau parhaus costau byw.

Mae Clwb Rygbi'r Dreigiau yn cael rhoddion o ddillad ac offer chwaraeon a garwyd unwaith, yn rheolaidd, trwy gynllun Dragons Kit Locker ac mae'n sicrhau bod yr eitemau hyn o fudd i'r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.

Yr wythnos hon, rhoddodd y clwb sawl bag o ddillad ac esgidiau chwaraeon i blant i'r Ystafell Gitiau Gymunedol ac mae'n bwriadu cyfrannu’n rheolaidd.

Daeth y Cynghorydd Fiona Cross i wybod am y cyfle drwy Wayne Furley, Prif Hyfforddwr Rygbi Cyffwrdd Cwmbrân Dragons Allstars - sy'n glwb cyswllt i Glwb Rygbi’r Dreigiau.

Meddai’r Cynghorydd Cross, Aelod Gweithredol Cyngor Torfaen dros Gymunedau:

"Rydyn ni’n ddiolchgar dros ben i Glwb Rygbi'r Dreigiau am y rhodd hael hon, a fydd yn helpu mwy o bobl ifanc i chwarae rygbi trwy roi mynediad i'r offer sydd ei angen arnynt. Trwy ailddefnyddio cit chwaraeon o safon dda, mae'r cynllun yn cefnogi teuluoedd ac yn lleihau gwastraff.

"Mae hefyd yn enghraifft wych o Fargen Torfaen ar waith, gyda busnesau, grwpiau cymunedol, gwirfoddolwyr a gwasanaethau cyhoeddus yn cyfuno’u hymdrechion i wella cyfleoedd i bobl leol."

Darperir yr Ystafell Gitiau Gymunedol mewn partneriaeth â Thîm Iechyd, Chwaraeon a Ffitrwydd Cyngor Torfaen, Cyngor Tref Blaenafon, Cyngor Cymuned Cwmbrân, Banc Bwyd y Cwm Dwyreiniol, Partneriaeth Garnsychan, Foodshare a Circulate Blaenafon.

Meddai David Watts, arweinydd Cynaliadwyedd Clwb Rygbi’r Dreigiau: "Rydyn ni’n falch iawn o gefnogi'r fenter gymunedol wych hon gyda dillad ac esgidiau chwaraeon ychwanegol i blant, yn syth o’n Locer Citiau.

"Dylai teuluoedd allu cael mynediad at y cit sydd ei angen arnynt heb fod cost yn rhwystro’u gallu i gymryd rhan. Trwy rannu eitemau o ansawdd da, gallwn gefnogi mwy o bobl ar draws Torfaen a defnyddio’r cit am gyfnod hirach. Edrychwn ymlaen at gyfrannu'n rheolaidd."

Os oes gennych chi ddillad ac offer chwaraeon sydd ddim yn cael eu defnyddio mwyach ond sydd â digon o fywyd ar ôl ynddynt, mae yna nifer o bwyntiau rhoi wedi'u sefydlu ar draws y Fwrdeistref.

Am ragor o wybodaeth am roddion neu leoliadau ac oriau agor Ystafelloedd Citiau Cymunedol, ewch i https://connecttorfaen.org.uk (yn agor mewn tab newydd)