
Mae disgyblion o Ysgol Gynradd New Inn wedi helpu i greu llyfr newydd i blant, sydd wedi'i gynllunio i ddysgu pobl ifanc sut i adnabod arwyddion sepsis a phryd i geisio cymorth meddygol brys.
Cafodd The Invisible Invader ei lansio'n swyddogol yn ystod gwasanaeth arbennig yn yr ysgol ddydd Mercher, gan ddathlu misoedd o waith gan grŵp o ddisgyblion Blwyddyn 5 a helpodd i lywio’r stori, y cymeriadau a'r negeseuon allweddol.
Datblygwyd y llyfr mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a’i nod yw codi ymwybyddiaeth am sepsis, sef cyflwr sy'n peryglu bywyd a all ddatblygu pan fydd ymateb y corff i haint yn niweidio’i feinwe a'i organau ei hun.
Fe fu’r disgyblion yn gweithio gyda'r awdur Mike Church gan helpu i greu stori sy’n dilyn Seren a Daisy wrth iddyn nhw ddysgu sut i adnabod arwyddion sepsis a pham y gall gweithredu'n gyflym achub bywydau.
Dros sawl wythnos, fe fu’r plant yn cymryd rhan mewn sesiynau addysgol dan arweiniad gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, gan ddysgu beth yw sepsis, sut mae'n effeithio ar y corff a pham y gall ei adnabod yn gynnar achub bywydau.
Meddai disgybl o Flwyddyn 5, Noah Baldock: "Fe wnes i fwynhau cwrdd â phobl newydd fel Mike, yr awdur, ac Andy, y darlunydd, a gweithio gyda nhw. Roedd y staff meddygol yn ddiddorol ac yn gymwynasgar dros ben hefyd."
Andy O'Rourke sydd wedi creu’r darluniau ar gyfer y llyfr a chafodd ei greu gan Petra Publishing Ltd, a bydd nawr yn cael ei rannu gydag ysgolion ar draws y rhanbarth, gyda 1,000 o gopïau'n cael eu dosbarthu ymhlith ysgolion cynradd ar draws ardal Gwent.
Meddai Kate Prendergast, Pennaeth Ysgol Gynradd New Inn:
"Rydyn ni mor falch o'n disgyblion am eu hymrwymiad i'r prosiect hynod bwysig hwn. Mae’r llyfr hwn yn arddangos creadigrwydd a gwaith tîm; ond mae hefyd yn cario neges bwerus, a allai achub bywydau, a fydd o fudd i bobl ifanc ar draws ein cymuned gyfan.
"Rydyn ni wedi cyd-ysgrifennu llyfr o'r blaen mewn partneriaeth â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, sef 'Stumble Crumble' yn 2023, ac roedden ni wrth ein bodd i weithio gyda nhw unwaith eto",
Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys cyfrif personol gan fam disgybl o Ysgol Gynradd New Inn a gafodd sepsis pan yn fabi.
Mae'r llyfr yn rhan o Ymgyrch Ymwybyddiaeth Sepsis barhaus Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan – ac mae’n annog sgyrsiau pwysig gartref, mewn ysgolion ac ar draws cymunedau.
Meddai Dr Seema Srivastava, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan:
"Mae sepsis yn dal i fod yn bryder sylweddol i ddiogelwch cleifion ac rydyn ni’n gwybod y gall adnabod yr arwyddion a'r symptomau'n gynnar wneud gwahaniaeth hanfodol i’r canlyniadau.
"Yr hyn sy'n gwneud y prosiect hwn yn arbennig iawn yw ei fod wedi'i ddatblygu gyda phlant, nid dim ond ar gyfer plant.
"Mae'r prosiect hwn yn dangos gwerth cyd-gynhyrchu, gan ddod â phlant, teuluoedd, addysgwyr, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol a phartneriaid cymunedol at ei gilydd i greu adnodd sy'n ystyrlon ac yn hygyrch."