Arolwg Trigolion Torfaen 2026

Beth sydd fwyaf pwysig i chi am fyw yn Nhorfaen? Arolwg yn cau 25/10/26

Cymerwch ran heddiw (yn agor mewn tab newydd)

Dathlu Llwyddiant yn Wythnos Dysgu Oedolion

Anthony standing out side the power station smiling

Mae'n #WythnosAddysgOedolion, ac rydym yn dathlu cyflawniadau dysgwyr sydd wedi dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i ddysgu rhywbeth newydd.

Ymunodd Anthony Crockett, 58 oed, â Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn 2007 i astudio sgiliau llythrennedd sylfaenol ar ôl gadael yr ysgol heb unrhyw gymwysterau TGAU a chael darllen ac ysgrifennu yn anodd.

Yn dilyn asesiadau a nododd fod ganddo ddyslecsia, mae Anthony wedi gweithio'n galed i wella ei hyder a'i alluoedd.

Yn ystod dosbarthiadau, sylwodd ei diwtor ar ei frwdfrydedd dros fathemateg a'i annog i ddatblygu'r sgil honno ymhellach.Ers hynny, mae Anthony wedi gwneud cynnydd cyson drwy ei gymwysterau mathemateg, ac eleni llwyddodd i ennill Gradd D mewn TGAU Mathemateg.

Mae Anthony yn bwriadu parhau â'i ddysgu gyda Dysgu Oedolion yn y Gymuned ac yn mynd i herio'i hun eleni drwy ddilyn cwrs Cymhwyso Rhif Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru.

Mae hefyd yn parhau i ddatblygu ei sgiliau rhifedd a llythrennedd. Meddai Anthony:

"Mathemateg yw fy mhŵer arbennig, ac yn bendant dydy darllen ac ysgrifennu ddim yn gryfderau, felly roedd yn her.

Os ydw i’n gallu llwyddo, gall unrhyw un lwyddo. Mae'r staff yn gefnogol iawn, ac rwy'n gwybod na fyddwn wedi llwyddo heb eu hanogaeth.

"Roeddwn eisiau gwneud hyn i brofi i mi fy hun fy mod i’n gallu. Rwy'n hoffi herio fy hun a chadw fy ymennydd yn effro."

Mae Dysgu Oedolion yn y Gymuned Torfaen yn cynnig tua 450 o gyrsiau mewn pynciau sy'n amrywio o sgiliau hanfodol a chymwysterau galwedigaethol i gyrsiau ffordd o fyw a hamdden.Darperir y cyrsiau yn y bore, y prynhawn a gyda'r hwyr mewn lleoliadau ledled Torfaen. Mae'r rhan fwyaf ogyrsiau'n cael eu cynnal wyneb yn wyneb, ond mae cyrsiau hunan-astudio ar-lein hefyd ar gael.

Gall addysg oedolion helpu pobl i gael gwaith neu wella cyfleoedd am gyflogaeth, datblygu'n bersonol a dysgu hobïau newydd. Mae hyfforddiant ar gyrsiau Sgiliau Hanfodol yn rhad ac am ddim; fodd bynnag, mae yna gostau cwrs ac achrediad ar gyfer meysydd pwnc eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am gyfleoedd Dysgu Oedolion yn y Gymuned, ewch i Cysylltu Torfaen drwy glicio isod.